Busnes y Dref. Rhwydweithio a brandio yn nhrefi Sir Ddinbych

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o gyfweliadau sy’n rhoi enghreifftiau o’r amrywiaeth o fusnesau mawr sydd yng nghanol ein trefi.

Siop ddillad Trefor Jones

Tudor Jones yw perchennog siop ddillad Trefor Jones yn Rhuthun,

busnes teuluol sydd wedi ei hen sefydlu ac wedi bod ar agor ers 40

mlynedd.

Mae’r cwmni’n cynnig ystod o ddillad dynion o’r safon uchaf gan

gynnwys dillad hamdden, dillad ffurfiol, esgidiau, llogi ar gyfer

priodasau ac ategolion.

Dywedodd Mr Jones, mab i sylfaenydd y busnes: “Rydym yn frand lleol

sefydledig. Rydym yn gweithio’n galed ac mae gennym gwsmeriaid

amrywiol. Rydym yn ceisio cael ystod amrywiol yn y siop, rhaid symud

ymlaen a bod yn hyblyg.

Tudor Jones owener of trefor Jones

“Mae’n bwysig symud ymlaen ac aros yn berthnasol, mae gennym

adran logi brysur iawn ac rydym wedi symud ymlaen i esgidiau. Mae’n

rhaid bod gwahanol bethau’n mynd ymlaen, dydyn ni ddim yn gwerthu

cymaint o siwtiau ag oeddem ni 20 mlynedd yn ôl. Mae’n ymwneud ag

arallgyfeirio a pharhau i gadw cynhyrchion o ansawdd, bod yn wahanol

i gwmnïau amlwladol. Mae cael gwybodaeth a phrofiad a medru helpu

ein cwsmeriaid yn helpu denu pobl yn ôl. Mae gennym enw da ac

rydym yn cael cwsmeriaid o’r Wirral, Sir Gaer a’r arfordir.

“Mae cymuned fusnes wych yn Rhuthun. Dydi siopa ar-lein ddim i

bawb. Mae pobl yn dal i fod eisiau trio’r dillad ymlaen, maen nhw

eisiau cyffwrdd a theimlo’r cynnyrch.

908

“Mewn trefi fel Rhuthun, mae lleoedd neis i fwyta, mae yna hanes i’r dref.

Mae’n gyrchfan hefyd, gall siopwyr ddod i dreulio pnawn yn y dref.”

Cynllun Canol Tref y Rhyl

Efallai eich bod wedi clywed bod Cyngor Sir Ddinbych yn ymgymryd â rhaglen ymgysylltu i gefnogi cynllun ar gyfer dyfodol Canol Tref Y Rhyl

Rydym ni eisiau siarad â busnesau fel rhan o’r prosiect gan eu bod yn grŵp allweddol, oherwydd byddant yn chwarae rôl allweddol yn llunio ac yn cefnogi dyfodol Canol Tref y Rhyl. Mae busnesau lleol yn rhan bwysig o’n cymuned, boed chi yng nghanol y dref ai peidio, mae gennych syniadau a gwybodaeth sy’n gallu ein helpu i’w wneud yn well I bobl leol, ymwelwyr, busnesau eraill ac ar gyfer budd ehangach y Rhyl.

Picture1.png

Sut i gymryd rhan

Rydym wedi treulio rhan helaeth o fis Mawrth yn siarad â busnesau lleol ledled Sir Ddinbych, sydd wedi bod yn wych. Rydych chi wedi bod yn dweud wrthym sut byddech chi’n hoffi gweld canol y dref yn newid, beth rydych chi’n feddwl sy’n gweithio ar y funud, a pha faterion y byddech chi’n hoffi i ni ymdrin â nhw.

Bydd mwy o gyfleoedd i gymryd rhan drwy gydol y gwanwyn a’r haf. Os oes gennych ychydig funudau i’w sbario rŵan, byddai’n wych pe gallech lenwi ein holiadur ar-lein ar gyfer busnesau.

Os oes gennych rhywbeth i ddweud am Ganol Tref y Rhyl, hoffem glywed gennych chi felly os hoffech drafod canol y dref yn uniongyrchol gydag un o’r tîm, gallwch gysylltu â ni.

Mwy o wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect drwy ymweld â www.sirddinbych.gov.uk/cynlluncanoltrefyrhyl

 

Sut mae sgiliau digidol yn rhyddhau amser ac arian?

Bu i’r tîm Datblygu Busnes ac Economaidd gofleidio’r oes wybodaeth amser maith yn ôl. Mae’r data ymchwil yr ydym yn ei gasglu gan ffynonellau cenedlaethol a lleol yn hysbysu’r holl weithgareddau yr ydym yn ei wneud i wella lles economaidd Sir Ddinbych.

Y llynedd, bu i ni gwblhau’r arolwg busnes Sir Ddinbych am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae’r arolwg blynyddol hwn yn edrych ar iechyd economi a busnes Sir Ddinbych i ddod o hyd i sut mae perchnogion busnes yn teimlo ynghylch eu sefyllfa, eu dyfodol a beth allwn ni ei wneud yn well.

Yn Sir Ddinbych, gallwn weld y bwlch sgiliau digidol yn cau fel mae busnesau medrus yn arbed amser ac arian drwy sgiliau newydd.

Rhan bwysig o’r arolwg busnes yw canfod sut mae bywyd busnes yn newid a pha sgiliau mae busnesau eu hangen i fod un cam ymhellach na’r gystadleuaeth. Mae’r arolwg busnes wedi dangos bod 8 o bob 10 busnes yn gwerthfawrogi sgiliau yn hytrach nag agwedd wrth benodi staff newydd. A yw hyn oherwydd bod busnesau angen staff newydd gyda sgiliau digidol yn eu busnesau? Mae arolwg gan Fujitsu wedi dangos bod 77% o 1,400 o weithwyr yn y DU yn credu bod llwyddiant eu sefydliad yn y busnes yn dibynnu ar ddefnydd effeithiol o dechnoleg ddigidol. Er mae arolwg ar wahân yn dangos bod 49% o Fusnesau Bach a Chanolig yn y DU yn wynebu bwlch o ran sgiliau digidol.

Yn Sir Ddinbych, gallwn weld y bwlch sgiliau digidol yn cau fel mae busnesau medrus yn arbed amser ac arian drwy sgiliau newydd. Drwy edrych ar ffyrdd y mae busnesau yn marchnata eu hunain gallwn weld bod y busnesau lleiaf, sydd â’r lleiaf o amser ac arian i wario yn fwy tebygol o ddefnyddio Facebook i gyflwyno eu busnes i’r byd ar y we. Fel mae busnesau yn tyfu, mae rhagor o wybodaeth i’w rannu ac mae busnes angen gwefan; ac erbyn y mae busnes yn faint canolig, mae hysbysebu ar y we yn fwy poblogaidd na thrwy dafod lleferydd.

 

Ond mae dal gwaith i’w wneud.

Ni all y mwyafrif o fusnesau benodi staff sy’n llythrennog ddigidol. Os yw busnesau am gau’r bwlch sgiliau digidol, mae’n cymryd ychydig o waith i gael mantais fawr, mae’n edrych fel bod busnesau Sir Ddinbych yn barod am y sialens. Pan ofynnwyd pa sgiliau yr hoffai fusnesau ddysgu, dywedodd dros dri chwarter o fusnesau yr oedd eisiau hyfforddiant eu bod eisiau dysgu e-fasnach ac roedd dros hanner eisiau dysgu am gyfryngau cymdeithasol.

training needs welsh with text.jpg

GAEL GWYBOD MWY

Mis Mawrth Busnes Sir Ddinbych yn dychwelyd

Mae cyfres o ddigwyddiadau am fis cyfan i gefnogi busnesau yn dychwelyd gyda’r rhaglen fwyaf erioed.

Mae Mis Mawrth Menter Cyngor Sir Ddinbych yn dychwelyd gyda 23 o ddigwyddiadau gwahanol sy’n cynnig bron i 100 awr o gynnwys mewn lleoliadau ar draws y sir.

Mae’r mis menter a gynhelir drwy fis Mawrth, yn cynnwys hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau rhwydweithio gyda Ffederasiwn Busnesau Bach a Siambr Fasnach Gogledd Cymru a Gorllewin Swydd Caer, digwyddiad i entrepreneuriaid ifanc a sesiynau ar allforio, Cymraeg mewn busnes a chynhyrchwyr bwyd lleol yn dangos eu cynnyrch.

M4B flyer Welsh

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych: “Lluniwyd y rhaglen eleni i fodloni anghenion busnesau yn y sir.

“Mae Mis Mawrth Menter yn cynnig cyfle i gwmnïau rwydweithio a chael cyngor arbenigol ynghylch materion sydd o bwys iddynt hwy.

“Gallant fynd â’r wybodaeth hyn ymlaen a helpu i dyfu eu busnes, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn economi’r sir.

“Lluniwyd ffocws Mis Mawrth Menter yn dilyn adborth o’n Harolwg Busnes blynyddol ac mae’n dangos bod y Cyngor yn gwrando ar fusnesau ac yn cynnig cefnogaeth iddynt i fodloni eu hanghenion.”

Mae Mis Mawrth Menter yn rhan o waith y Cyngor i ddatblygu’r economi leol trwy ei Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol, sy’n cynnwys nifer o brosiectau blaenoriaeth uchel i helpu busnesau i lwyddo.

Mae Carole Derbyshire-Styles, 57, wedi bod yn rhedeg Corwen’s Vintage Home Styles, sy’n gwerthu hen ddodrefn a hen gelfi, ers dwy flynedd.

Dywedodd: “Mynychais Mis Mawrth Menter y llynedd ac roedd yn llawn gwybodaeth. Mynychais gwrs am farchnata ar gyfryngau cymdeithasol.  Rhoddodd syniadau i mi ar sut i farchnata fy musnes yn well. Rydym wedi ymgysylltu’n fwy a gall pobl ddod o hyd i ni ar-lein ac yna ffonio neu alw heibio, mae pobl yn dod o ardaloedd sydd mor bell â Birmingham.

“Roedd yn fanteisiol i mi ac ar gyfer y busnes.”

Cafodd Mrs Derbyshire-Styles grant i ailwampio blaen ei siop gan Gyngor Sir Ddinbych, ac mae’n bwriadu agor storfa ar hen safle tŷ arwerthu yng Nghorwen i ddal i fyny gyda’r galw.

Dywedodd: “Nid wyf yn gallu dal i fyny gyda’r hyn mae pobl yn ofyn i mi, bydd gan y storfa le i ragor o eitemau.

“Byddwn yn mynychu Mis Mawrth Menter eleni, a byddwn yn argymell i unrhyw fusnesau eraill gymryd mantais hefyd.”

Mynychodd Lizzie Peters, o Phoenix Optical Technologies, cwmni gweithgynhyrchu optegol ym Mharc Busnes Llanelwy, y digwyddiad Sir Ddinbych o Blaid Twf yn nigwyddiad Mis Mawrth Menter y llynedd.

Dywedodd: “Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych ar gyfer busnesau lleol i rwydweithio. Clywais am rai cwmnïau nad oeddwn wedi clywed amdanynt o’r blaen ac wedi cael cysylltiadau newydd mewn hyfforddiant a diwydiannau eraill. Roedd y sgyrsiau yn llawn gwybodaeth ac roedd yn ddiddorol clywed am gynlluniau ar gyfer Parc Busnes Llanelwy i’r dyfodol. Cawsom ymateb gwych i’n stondin ar y diwrnod, roeddem yn hysbysebu ein Armourdillo Toughened Glass ac o ganlyniad, gofynnwyd i mi siarad a rhoi cyflwyniad yng Ngŵyl Arloesedd Cymru.

“Byddwn yn annog Busnesau o bob maint i gymryd mantais o’r rhaglen amrywiol ar gyfer Mis Mawrth Menter, gan fod sesiynau wedi’u teilwra ar gyfer busnesau o bob maint.”

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle ewch i www.sirddinbych.gov.uk/mismawrthmenter

 

Busnes y Dref: Brunning & Price

Sefydlwyd y cwmni bwytai a thafarndai Brunning and Price yn 1989 gan ddau ffrind Jerry Brunning a Graham Price. Ers hynny, mae wedi tyfu i fod yn deulu o dafarndai ledled y wlad gyda llu o leoliadau yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys y Felin Yd yn
Llangollen a’r Dinorben Arms ym Modfari. Aethom i holi Andy Barker, rheolwr y Felin Yd, ynglyn â dull gweithredu’r cwmni a pham eu bod wedi buddsoddi yn Sir Ddinbych.

Andybarker brunning & Price
Mae Brunning and Price wedi agor dau fwyty yn Sir Ddinbych, allan o chwech yng Ngogledd Cymru gyfan. Beth ddenodd chi i Sir Ddinbych?
Wrth chwilio am dafarndai Brunning and Price newydd, rydym bob amser yn chwilio am rywbeth ychydig yn arbennig. Gallai fod yn adeilad dymunol, pensaernïaeth hanesyddol anhygoel neu leoliad bendigedig gyda golygfa hardd. Mae Sir Ddinbych yn hardd ac yn llawn hanes, felly mae’n ein gweddu’n
berffaith.
Mae gan Sir Ddinbych ddetholiad gwych o gynnyrch lleol – pa fathau o gynhyrchwyr ydych chi’n gweithio gyda nhw yn y sir a sut mae hynny o fudd i chi?
Rydym yn dangos ein ‘milltiroedd cwrw’ ar fyrddau uwch ben ein bar ac yn ceisio sicrhau ein bod yn defnyddio cymaint o fragwyr lleol a phosibl, gan gefnogi’r diwydiant lleol – ond hefyd yn darparu cynnyrch o ansawdd. Rydym hefyd wrth ein bodd yn defnyddio cawsiau lleol felly’n hoffi chwilio am
gynhyrchwyr gwych gerllaw.
Beth yn eich barn chi sy’n gwneud tref farchnad gryf?
Mae ‘pobl’ yn bwysig i ni. Heb bobl a’r awyrgylch y maent yn ei gynnig i’n tafarndai ni fyddai gennym unrhyw beth i’w gynnig ac mae tref farchnad yr un fath. Mae’n hanfodol cael marchnadoedd a siopau, mae’r rhain yn dod â phobl at ei gilydd i greu cymuned a dyna sy’n creu lle arbennig. Rydym yn
hoffi meddwl ein bod yn helpu gyda chymuned drwy eistedd yng nghanol pethau, fel man cyfarfod i bobl sgwrsio a chadw mewn cysylltiad â’i gilydd.
Beth yw buddion cael eich lleoli mewn tref ffyniannus fel Llangollen? Sut mae cael detholiad bywiog o fasnachwyr annibynnol yn helpu eich busnes?
Mae Llangollen yn cynnig cymaint gyda’r gamlas, yr afon, y rheilffordd, y cerdded a’r hamdden awyr agored eraill sydd ar gael drwy nifer o wahanol ddarparwyr. Mae’n gymorth aruthrol i fod yn rhan o gymuned ffyniannus sy’n sicr wedi dod yn fwy poblogaidd fel cyrchfan i dwristiaid dros yr ugain
blynedd diwethaf. Y prif fuddion yw fod nifer uchel o ymwelwyr yn y dref ac mae hynny’n ein hamlygu I nifer fawr o bobl o wahanol ranbarthau. Mae’r dref a’r gymuned yn gwerthu ei hun yn dda iawn gyda’r holl fasnachwyr annibynnol a’r gwahanol ddigwyddiadau sy’n mynd ymlaen ac rydym yn falch i fod yn rhan o hynny.

Llangollen Cornmill1
Mae’r cwmni wedi mwynhau twf aruthrol dros y tri degawd diwethaf, beth sydd i gyfrif am hynny?
Rydym wedi cadw i raddau helaeth at yr hyn rydym yn ei wneud orau a’r egwyddorion oedd gennym ni ar y dechrau. Mae ein tafarndai yn cael eu rhedeg gan y timau sydd yno, efo teimlad perchennog gweithredol, mae’r brif swyddfa yno i helpu criw’r tafarndai i wneud yr hyn sydd angen i gynnig profiad gwych i’r cwsmeriaid. Rydym yn ceisio cadw pethau’n syml iawn, peidio gwyro oddi wrth ein nod o redeg tafarndai gwych. Er ein bod yn fwy, rydym yn dal yn deulu a dyna sy’n bwysig, dim ond ein bod yn deulu mwy. Mae pawb yn trin ei gilydd fel yr hoffent gael eu trin eu hunain.
Beth sydd yn eich gwneud yn wahanol i’ch cystadleuwyr?
Byddai’n rhaid i chi ofyn hynny i’n cwsmeriaid. Rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar yr hyn rydym ni’n ei wneud yn hytrach nac edrych ar eraill a chymharu. Byddem ni’n dweud er hynny fod bwyd ffres wedi ei baratoi gan ac ar gyfer tafarndai unigol yn eithaf anodd dod o hyd iddo y tu allan i ‘dafarndaiannibynnol’. Mae ein prif gogyddion yn gweithio gyda chyflenwyr lleol, er enghraifft rydym yn cael selsig, cig a chaws o Ogledd Ddwyrain Cymru. Mae gweddill y timau yn dylunio eu bwydlenni eu hunain sy’n newid ychydig o ddydd i ddydd – mae hynny’n eithaf prin gan ei bod yn anodd heddiw diweddaru’r holl wybodaeth am alergenau.
Mae gwasanaeth i gwsmeriaid yn rhan bwysig o’ch busnes – sut ydych chi’n sicrhau fod pawb yn cadw at y neges ac yn dal i wenu?
Ymdrechwn i fod ar ein gorau bob amser. Y prif beth yw cyflogi pobl hyfryd – gallwn ddysgu’r gweddill iddyn nhw, ond os oes ganddyn nhw galonnau da yn y lle cyntaf daw lletygarwch yn naturiol iddynt. Nid oes neges i gadw ati – y cyfan rydym yn gwneud yw dod o hyd i bobl ddymunol, eu trin yn iawn ac maent yn eu tro yn hapus i fod yn y gwaith ac yn rhyngweithio’n dda efo’r cwsmeriaid.

Stephen Dodd / bigcheese.co.uk

I weld rhagor o gyfweliadau gyda busnesau Sir Ddinbych, awgrymiadau ar gyfer llwyddiant a chyngor ar destunau pwysig sy’n wynebu masnachwyr yn y sir, fel rhwydweithio a hyrwyddo eich hun trwy gyfryngau cymdeithasol, darllenwch yr e-gylchgrawn Busnes Tref yma

 

Nid Beth Ydych Chi’n Wybod, ond Pwy Ydych yn ei Adnabod!

Rhwydweithio Busnes

Mae yna lawer o gyfleoedd i fusnesau yn Sir Ddinbych i ymuno â rhwydweithiau a grwpiau gyda phobl fusnes eraill o’r un anian; grwpiau busnes Canol Tref, Siambrau Masnach a chymdeithasau masnach yn rai ohonynt. Yn ogystal â’r cyfleoedd i rwydweithio a gynigir drwy fynychu Digwyddiadau, Cynadleddau a Sioeau, ar-lein mae yna rwydweithiau am ddim hefyd fel Linkedin y gellir bod yn rhan ohonynt yn gyflym ac yn hawdd.

Gall dewis pa un i fod yn rhan ohono fod yn ddewis personol ond mae egwyddorion Rhwydweithio ar gyfer Busnes yn parhau’r un fath. Mae’n dda i fusnes pawb!

 

Gareth Wyn Jones

Gareth Wyn Jones Farmer and Presenter

Mae rhwydweithio’n rhoi’r cyfle i:

  • ddysgu pethau newydd
  • casglu gwybodaeth
  • cael cymorth gyda phroblemau gan bobl â gwybodaeth briodol
  • gwybod beth mae cystadleuwyr yn ei wneud!
  • cwrdd â chleientiaid a chwsmeriaid newydd posibl a ffurfio cynghreiriau newydd

Gall hefyd helpu eich busnes i gadw i fyny gyda’r tueddiadau diweddaraf, rheoliadau newydd neu ddatblygiadau diwydiant cyffredinol.  Nid yw’n ymwneud â chael gwerthiant yn unig ond rhannu gwybodaeth a helpu busnesau eraill hefyd.

m4b collage

Cyngor ac Awgrymiadau ar gyfer Rhwydweithio mewn Digwyddiadau

  • Os ydych yn mynychu digwyddiad siaradwch amdano. Defnyddiwch Twitter a LinkedIn i ledaenu’r gair
  • Gwnewch yn fawr o’r digwyddiad drwy wahodd cleientiaid a chwsmeriaid
  • Darllenwch y rhestr presenoldeb a dewiswch 2 neu 3 o bobl yr hoffech eu cyfarfod a dod o hyd iddynt
  • Caniatewch ddigon o amser i gwrdd â phobl a dosbarthu cardiau busnes
  • Gwnewch i’ch busnes sefyll allan a threfnwch un funud yn y digwyddiad
  • Peidiwch â siarad yn unig, ond gwrandewch a byddwch yn barod i rannu eich gwybodaeth
  • Gwenwch a chael eich hun mewn llun,  does wybod lle fydd eich wyneb yn ymddangos!
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal i fyny gydag unrhyw gysylltiadau a wneir o fewn ychydig ddyddiau
  • Ymunwch â grŵp busnes a rhannwch gysylltiadau ac atgyfeiriadau

Y Manteision i’r Busnes

  • Mae aros yn y presennol ac adnabod y farchnad yn sail i gynllun busnes da
  • Mwy o arweinwyr, cyfleoedd busnes a chyflenwyr neu gwsmeriaid posibl ar gyfer y busnes
  • Mwy o enw da a hyder i’r busnes
  • Gwell llinell isaf
  • Mwy o hwyl!

Dod o hyd i ddigwyddiadau wrth eich ymyl chi

Cadwch olwg ar wefannau a Twitter ar gyfer digwyddiadau a gweithdai. Ewch i Busnes Cymru <https://businesswales.gov.wales/> neu Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer Busnes <https://www.denbighshire.gov.uk/en/business/business.aspx>, LinkedIn, Twitter neu Eventbrite <https://www.eventbrite.com/d/wales–denbighshire/events/> i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau lleol. Cymerwch naid – siaradwch gyda busnesau eraill a gweld beth sydd ar gael yn eich tref neu ardal.

 

 

Gêm Drosodd

Nid oes unrhyw deimlad yn debyg i’r panig sy’n corddi’r stumog ac yn gwneud i chi chwysu pan fyddwch yn gwybod eich bod wedi colli eich holl ddata.  Meddyliwch am yr holl oriau a dreuliwyd, yr arian a gollwyd a’r wybodaeth goll, a beth y gallai hyn ei olygu ar gyfer eich busnes.

Os nad yw hynny wedi gwneud i chi wingo, gadewch i mi adrodd yr hanes sut y bu i’r cwmni animeiddio digidol Pixar bron â diflannu.   Nid gyda hud a lledrith ond gydag un darn bach o gôd.

/bin/rm -r -f *

toystory2bd-01

 Ym 1998 roedd criw bychan o animeiddwyr Pixar yn gweithio’n galed i ddiwallu terfyn amser i gynhyrchu Toy Story 2 yn barod ar gyfer y lansiad.  Mewn prosiect fel hyn, mae pob animeiddiwr yn gweithio ar yr un rhwydwaith cyfrifiadurol.  Efallai y bydd un person yn addasu’r golau, tra bo un arall yn addasu symudiad het Woodie yn yr un olygfa.   Wrth i’r animeiddwyr weithio, roedd elfennau’r olygfa yn dechrau diflannu.  I ddechrau roedd y gwead yn edrych yn rhyfedd, yna diflannodd wyneb un o’r cymeriadau ac yna roedd cyrff, ategolion a golygfeydd yn diflannu.   Erbyn iddynt dynnu plygiau’r gweinydd dim ond 10% o’r ffilm wreiddiol oedd wedi goroesi.  Roedd rhywun, drwy gamgymeriad, wedi mewnbynnu’r prif gôd dileu.  Wrth i sgriniau’r animeiddwyr rewi ac wrth iddynt fynd i gael ychydig o ginio, nid oeddent wedi llwyr sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa.  

Dylai pob cwmni sy’n cadw data ddefnyddio system sy’n creu copïau wrth gefn.  Fodd bynnag, yn ôl y Guardian, nododd 48% o fusnesau bach y DU nad oes ganddynt gynlluniau rheoledig ar waith a nododd 78% nad oedd ganddynt gynllun adfer data symudol.  Yn ôl Siambrau Masnach Prydain mae 93% o fusnesau sy’n colli data am fwy na 10 diwrnod yn fethdalwyr o fewn blwyddyn.

Yn ffodus, roedd gan Pixar system wrth gefn.   Yn ôl ym 1998 roedd copïau wrth gefn yn cael eu cadw ar dapiau- pan fo un tâp yn llawn byddai rhybudd yn nodi bod angen un newydd.  Fodd bynnag, ar yr achlysur hwn, ni chafwyd y rhybudd.  Roedd hyn yn golygu wrth i’r gwaith newydd gael ei ysgrifennu, roedd yn dechrau tynnu’r hen waith oddi ar y tâp, gan ddileu’r strwythurau allweddol yr oedd yr animeiddiad newydd yn seiliedig arnynt.  Pan sylweddolwyd hyn, bu’n rhaid galw cyfarfod brys.

Heddiw, mae creu copi wrth gefn o’ch ffeiliau yn hawdd.  Gall nifer o wasanaethau ar-lein greu copi wrth gefn o’ch data ar eu gweinyddwyr eu hunain a gwarantu diogelwch data ac ansawdd gwasanaeth.  Os na allwch fforddio talu am wasanaeth neu eich bod eisiau trefnu eich data eich hunan gall Gwasanaeth Data y DU a ready.gov ddarparu canllawiau ynglŷn â sut i greu copïau wrth gefn o ddata a beth i’w wneud os ydych yn ei golli.

Yn ôl at stori Pixar, gyda phrosiect Toy Story 2 a thynged y cwmni cyfan yn y fantol, gwaeddodd un gweithiwr “Mae gennyf beiriant gartref”.  Fel y digwydd, roedd Cyfarwyddwr Technegol Goruchwyliol Toy Story 2 yn dychwelyd o gyfnod mamolaeth, ac wedi bod yn gweithio ar y ffilm o gartref, lle’r oedd ganddi gopi bron â bod yn gyflawn o’r ffilm ar ei gyriant caled.  Anfonwyd tîm i gasglu’r peiriant a oedd yn dal tynged y cwmni cyfan ar ei fanciau cof.  Ni fu’n rhaid i Pixar ddod yn fethdalwyr ar y diwrnod hwnnw, ond aethant yn eu blaenau i gynhyrchu rhai o ffilmiau mwyaf hudolus y ddegawd ddiwethaf.  Gallai’r stori fod yn wahanol iawn.  

Fyddwch chi’r un mor lwcus?

 

Pa mor Barod yw eich Busnes?

Gall unrhyw fusnes ddioddef digwyddiad difrifol sy’n eu hatal rhag ymgymryd â’i fusnes fel arfer. Er enghraifft seibr-drosedd, tor-pŵer, llifogydd, tân, aflonyddwch cludiant mawr neu hyd yn oed terfysgaeth. Efallai na fydd yn digwydd i chi yn uniongyrchol ond gallai fod yn rhywbeth daw eich busnes yn gysylltiedig ag o ac y caiff ei effeithio ganddo.

‘Canfu’r Ffederasiwn Busnesau Bach a Climate Ready yn Asiantaeth yr Amgylchedd nad oedd gan draean o fusnesau yn y DU yswiriant parhad busnes ac nad oedd gan 60% unrhyw gynlluniau i ddelio â thywydd eithafol – er i ddwy ran o dair fod wedi eu heffeithio gan eira, sychder neu lifogydd yn y tair blynedd diwethaf.’ Ffynhonnell: BITC.

Ar gyfer busnesau bach, gall effaith digwyddiad difrifol fod yn ddinistriol. Er mwyn helpu busnes i ymdopi mewn argyfwng, y cyngor yw paratoi cynllun parhad. Mae cynllun parhad busnes yn disgrifio’r camau ymarferol mae angen i’ch busnes eu cymryd os yw problem benodol yn codi.

Fel y dywed FedEx, ‘Gwnewch fwy na chroesi’ch bysedd’!

Mae seibr-drosedd wedi ei nodi fel problem gynyddol, ond mae help a chyngor ar gael ar gyfer busnesau. Porwch drwy’r rhaglen ddigwyddiadau ar wefan Sir Ddinbych YMA. Neu cysylltwch â’r tîm Band Eang Cyflym Iawn yn Busnes Cymru. Gallwch weld eu post BLOG diweddar ar gamau i’ch helpu i warchod eich asedau.

Fodd bynnag, dim ond un enghraifft yw seibr-drosedd a dylai busnesau baratoi trwy sefydlu cynllun parhad busnes cyffredinol. Mae hyn yn gwneud busnesau’n fwy parod i ymdopi mewn argyfwng, a dylai helpu gyda chyflymu’r broses adfer gan wneud busnesau yn fwy gwydn.

 Mae gan y wefan Busnes yn y Gymuned gyngor ymarferol a chyfres o awgrymiadau a ‘thempledi deg munud’ sydd wedi eu hanelu at fentrau bach a chanolig eu maint. Mae pethau fel cadw rhestr o gysylltiadau mewn argyfwng a chopïau wrth gefn o wybodaeth allweddol yn lle da i ddechrau. Mae mwy o help a gwybodaeth YMA.

Gall Busnes Cymru hefyd ddarparu cyngor ar Gynllunio Parhad Busnes a gellir cysylltu â nhw ar 03000 6 03000 neu ewch i’w gwefan www.Businesswales.gov.uk.

 

free-business-resources pic

 

Blog Cymraeg mewn Busnes

Mae prosiect peilot Cymraeg mewn Busnes wedi gwneud gwahaniaeth mawr i nifer o fusnesau bach yn Sir Ddinbych. Drwy godi ymwybyddiaeth o sut gall dwyieithrwydd elwa incwm busnesau mae’r prosiect Cymraeg mewn Busnes wedi creu newid parhaol, gobeithio. Dyma ychydig o’r adborth cadarnhaol a dderbyniom:

quotes wel

Ym mis Medi 2016 comisiynodd y Tîm Datblygu Economaidd a Busnes IAITH: y ganolfan cynllunio iaith Gymraeg er mwyn darparu prosiect peilot ‘Cymraeg mewn Busnes’ gyda’r bwriad o brofi buddion busnes dwyieithrwydd drwy hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel arf busnes er mwyn gwella perfformiad economaidd. Bu’r prosiect peilot yn gweithio gyda busnesau ym Mhrestatyn, Llangollen a Llanelwy am gyfnod penodol o amser er mwyn deall yr angen a’r awch am gymorth iaith Gymraeg o fewn busnesau. Yn nes ymlaen yn 2017 byddant yn ail gysylltu gyda’r busnesau hynny er mwyn profi pa wahaniaeth mae’r camau gweithredu a gymerwyd wedi ei wneud i’w hincwm.

Mae canfyddiadau cynnar o’r prosiect peilot yn awgrymu fod yr iaith Gymraeg yn rhoi mantais gystadleuol gyffredinol i fusnesau drwy allu cyfathrebu’n ddwyieithog gyda chwsmeriaid. Mae buddiannau mwy penodol a ddatgelwyd gan y peilot yn cynnwys:

  • Mae’r defnydd o’r Gymraeg yn rhoi safon dilysrwydd unigryw i fusnes. Os ydych yn gweld cynnyrch neu wasanaeth sy’n dibynnu ar leoliad ar gyfer ei werth, bydd defnyddio’r Gymraeg yn atgyfnerthu’r teimlad o ddilysrwydd.
  • Mae’n gwrtais ac yn aml yn hanfodol darparu cyfieithiad Cymraeg mewn busnes, ar gyfer y cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
  • Gall siarad Cymraeg ac arddangos arwyddion Cymraeg agor marchnadoedd newydd.
  • Mae defnyddio’r iaith Gymraeg yn dangos eiriolaeth dros gynnyrch lleol a gall gysylltu gydag ymdrechion ehangach i farchnata cynnyrch lleol / Cymreig. E.e. CaruBusnesauLleol, Cig Oen Cymru ayb.

Fel rhan o’r prosiect Cymraeg mewn Busnes bu IAITH yn darganfod yn gyntaf faint o Gymraeg sy’n cael ei siarad yn ein trefi ac yna yn recriwtio busnesau oedd yn awyddus i ddysgu sut gall dwyieithrwydd fod o fudd i’w hincwm.

Rhoddodd cyfarfodydd cychwynnol wyneb yn wyneb linell sylfaen i’r prosiect i weithio oddi arni a theimlad o sut mae’r Gymraeg eisoes yn cael ei defnyddio yn ein sir.  Rhoddodd y gwaith hwn gip defnyddiol i ni o’r cychwyn cyntaf, gan nodi fod sawl busnes eisoes yn deall y cysylltiad rhwng yr iaith Gymraeg a gwir brofiad twristaidd, ond nad oedd gan lawer o fusnesau y sgiliau iaith neu’r hyder i’w defnyddio er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w busnes.

Yna, recriwtiodd y prosiect fusnesau o bob tref i gymryd rhan mewn nifer o weithdai busnes Cymraeg yn canolbwyntio ar yr iaith lafar, arwyddion dwyieithog mewn siopau a defnydd o’r Gymraeg ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Daeth y sesiynau hyn â nifer o syniadau newydd i fusnesau a chawsant arfau er mwyn parhau i’w defnyddio yn eu busnesau o ddydd i ddydd.

Ar ddiwedd y gyfres o weithdai cafwyd gweithdy terfynol oedd ar gael i bawb fel rhan o Fis Mawrth Busnes

Ers i’r gweithdai ddod i ben mae nifer o’r gwersi a ddysgwyd gan y busnesau wedi eu rhoi ar waith. Mae un o’r goreuon yn Oriel House, sef gwesty ar Ffordd Dinbych Uchaf ger Llanelwy. Mae staff y gwesty hwn bellach yn gwisgo llinyn gwddw Cymraeg er mwyn dangos i westeion y gallant sgwrsio yn Gymraeg, ac mae Oriel House bellach yn cynnig pecyn priodas fel gwasanaeth newydd.

Ceir bellach ariannodd hyfforddiant hyblyg wedi’i ariannu’n llwyr i gryfhau sgiliau Cymraeg eich gweithlu.

O ddechreuwyr i siaradwyr rhugl, mae Cymraeg Gwaith yn cynnig rhywbeth i bawb.

Mae pedair elfen yn perthyn i’r cynllun:

Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr i Fusnesau Sir Ddinbych

Yn gynharach eleni fe ddywedom wrthych am Gynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun rhyddhad targedig hwn yn newydd ar gyfer 2017/18 a’i nod yw cynorthwyo manwerthwyr ar y stryd fawr, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi gweld cynnydd yn eu bil Ardrethi Busnes o ganlyniad i ailbrisiad 2017 Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Mae Cyngor Sir Ddinbych erbyn hyn wedi sicrhau fod pob eiddo cymwys yn y Sir yn manteisio ar gynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr Llywodraeth Cymru. Mae cyfanswm o 638 o fusnesau cymwys yn Sir Ddinbych wedi arbed £528,812 ar eu biliau. Bydd busnesau unigol wedi cael rhyddhad o hyd at £500 (Haen 1) neu hyd at £1,500 (Haen 2).

Am ragor o fanylion am y cynllun a’r meini prawf cymhwysedd, darllenwch y Canllawiau ar Ryddhad Ardrethi’r Stryd Fawr.

Os yw eich busnes yn gymwys byddwch wedi derbyn bil diwygiedig gyda’r gostyngiad wedi’i roi yn awtomatig ar eich cyfrif.

Os ydych wedi derbyn bil diwygiedig ond ddim yn dymuno derbyn y Rhyddhad Ardrethi ar gyfer eich eiddo chi, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen optio allan a amgaewyd gyda’ch bil.

Fel arall, os ydych yn credu eich bod yn gymwys ond heb dderbyn y rhyddhad ac yn dymuno i ni adolygu eich achos, cysylltwch â’r Adran Ardrethi Busnes ar: businessrates@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 01824 706200.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn llunio’r cynllun rhyddhad ardrethi newydd ar gyfer 2018/19 ac wedi hynny ac rydym yn aros am ragor o arweiniad ac yn disgwyl mwy o fanylion yr hydref hwn.