Y cynllun gweithredu bwyd a diod – dwy flynedd yn ddiweddarach

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’n ddwy flynedd, bellach, ers i Lywodraeth flaenorol Cymru lansio ei Chynllun Gweithredu Bwyd a Diod. Ddydd Mawrth 21 Mehefin, bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn.

Y cynllun gweithredu

Y prif ymrwymiad yn y cynllun yw sicrhau cynnydd o 30 y cant yn nhrosiant y diwydiant i £7 biliwn erbyn 2020.

Mae’r ymrwymiadau eraill yn cynnwys:

  • Sefydlu Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. Cylch gwaith y bwrdd yw bod yn gyfrifol am roi’r cynllun gweithredu ar waith ac ehangu a hyrwyddo enw da’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru;
  • Parhau i ddatblygu hunaniaeth fasnachol newydd ar gyfer cynnyrch o Gymru, gan gynnwys datblygu dulliau newydd o wobrwyo cwmnïau yn y diwydiant bwyd (daeth y drefn wobrwyo flaenorol, sef Gwir Flas Cymru, i ben yn 2013); a
  • Datblygu gweithlu cymwys a galluog drwy bartneriaethau ag ysgolion, sefydliadau addysg uwch, diwydiant ac eraill.

Mae’r cynllun yn cynnwys 48 o gamau gweithredu, ac mae 25 ohonynt yn canolbwyntio ar dwf busnes a datblygu’r farchnad. Mae camau gweithredu eraill yn canolbwyntio ar addysg, hyfforddiant, sgiliau, arloesi, diogelwch bwyd a diogelu’r cyflenwad bwyd.

Cynnydd a wnaed hyd yn hyn – rhai pwyntiau pwysig

Ar 30 Mehefin 2015, rhoddodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd, y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun gweithredu.

Twf y diwydiant

Nid oes ffigurau ar gael i fesur y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcan o gynyddu trosiant y diwydiant o 30 y cant i £7 biliwn erbyn 2020. Ar 30 Mehefin 2015, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

…rydyn ni ar drywydd y targed hwnnw. Yn ôl ystadegau diweddaraf y sector, mae ffermio a bwyd yn cynhyrchu £5.8 biliwn o drosiant, sy’n golygu ein bod eisoes wedi gweld 11.5 y cant o dwf ers 2012-13.

Fodd bynnag, roedd y ffigur a ddyfynnwyd gan y Dirprwy Weinidog ar gyfer y sector ffermio a bwyd ehangach, sy’n cynnwys amaethyddiaeth sylfaenol, yn hytrach nag ar gyfer y sector bwyd a diod yn benodol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd y byddai’n cyhoeddi adroddiad ar yr astudiaeth data sylfaenol a gynhaliwyd, a fyddai’n darparu ‘dadansoddiad data wedi’u dadgyfuno ar y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod a’r is-sectorau o fewn hynny.’ Gellir gweld yr adroddiad yma Gwerth bwyd a diod o Gymru.

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Roedd y cynnydd a wnaed ar sefydlu’r bwrdd yn arafach na’r hyn a nodir yn y cynllun gweithredu. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog fod holl aelodau’r bwrdd wedi’u henwi ond nad oedd y Cadeirydd eto wedi’i ethol. Cafodd y Cadeirydd – Andy Richardson, Pennaeth Materion Corfforaethol Volac – ei ethol gan aelodau’r bwrdd ym mis Ionawr 2016.

Bwriad y cynllun gweithredu oedd i’r bwrdd gael ei sefydlu’n llawn yn 2014. Dywedodd y Dirprwy Weinidog mai’r rheswm am yr oedi oedd ‘nad oedd gennym ni ehangder ar draws y diwydiant neu fwrdd a oedd mor amrywiol ag y byddem yn dymuno iddo fod hefyd.’

Cynhaliwyd proses ymgeisio ar gyfer aelodaeth y bwrdd yn nhymor yr hydref 2014. O ganlyniad, penodwyd nifer o bobl o’r diwydiant ar ‘fwrdd cysgodol’. Yn nhymor y gwanwyn 2015, cynhaliwyd proses ymgeisio bellach i gynyddu’r sylw a roddir i’r Bwrdd.

Hunaniaeth fasnachol

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Mae hunaniaeth ‘Bwyd a Diod Cymru’ yn cael ei hailddiffinio. Mae’n hunaniaeth gyffredin, a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus mewn arddangosfeydd yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r gwaith presennol yn cwmpasu ei alluoedd ac yn datblygu’r delweddau a’r naratif sy’n adrodd hanes bwyd a diod Cymru.

‘Bwyd a Diod Cymru / Food and Drink Wales’ yw’r hunaniaeth fasnachol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. Mae’n llwyfan sy’n arddangos brandiau a chynnyrch unigol, yn hytrach na bod yn frand ynddo’i hun. Mae’r dull hwn yn disodli’r hunaniaeth flaenorol, sef ‘Cymru y Gwir Flas / Wales the True Taste’, nad oedd Llywodraeth Cymru’n teimlo ei bod yn briodol mwyach.

Gwobrau Bwyd

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi olynydd i’r Gwobrau Gwir Flas. Fodd bynnag, gwnaeth ymdrechion i ddod â Gwobrau Great Taste y DU  i Gymru am y tro cyntaf. Mae Gwobrau Great Taste yn cael eu trefnu gan y Guild of Fine Food. Fe’u disgrifir weithiau fel Oscars neu wobrau Booker y byd bwyd. Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Ni wnaeth Gwir Flas erioed ennill y tyniant y byddem ni wedi hoffi iddo ei ennill yng Nghymru o ran dealltwriaeth y cyhoedd ohono, dealltwriaeth manwerthwyr ohono ac o ran ymgysylltiad cynhyrchwyr bwyd ag ef.  Fodd bynnag, mae gwobrau Great Taste yn frand adnabyddus, uchel ei barch.

Gellir gweld manylion ynghylch y rhai o Gymru sydd wedi ennill gwobrau Great Taste yn ddiweddar yma: Gwobrau Great Taste.

Y Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd

Ym mis Mai 2015, lansiodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd (2015-20). Nod y cynllun yw codi proffil Cymru fel cyrchfan twristiaeth bwyd o safon uchel.

Ffeithiau a ffigurau

Mae gwefan bwrpasol Llywodraeth Cymru ar Fwyd a Diod Cymru yn rhoi’r ffeithiau a’r ffigurau a ganlyn am ddiwydiant bwyd a diod Cymru:

Cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd ar ffermydd

  • 48,000 o swyddi;
  • 14,000 o fusnesau cofrestredig (98 y cant ohonynt yn ficrofusnesau. Diffinnir microfusnesau fel busnesau sydd â rhwng 0 a 9 gweithiwr.);
  • Trosiant o £5.7 biliwn;
  • Gwerth ychwanegol gros (GVA) o £1.3 biliwn; a
  • 75 y cant o fusnesau yn gwerthu nwyddau i’r cyhoedd.

Y gadwyn gyflenwi gyfan (o’r fferm i’r fforc, gan gynnwys manwerthu)

  • 170,000 o swyddi;
  • 23,300 o fusnesau;
  • Trosiant o £17.3 biliwn;
  • Gwerth ychwanegol gros o £4 biliwn;
  • 14 y cant ohonynt yn rawnfwydydd neu’n baratoadau grawnfwyd; a
  • 12 y cant ohonynt yn bysgod neu’n gramenogion.

Mae rhagor o ffigurau a ffeithluniau ar gael yn adroddiad data sylfaenol Llywodraeth Cymru, sef yr adroddiad y cyfeirir ato uchod: Gwerth bwyd a diod o Gymru.

Cawsiau Cymreig o’r safon uchaf yn cael eu harddangos ar lechen.

Amaethyddiaeth, busnes y Cynulliad, datblygu economaidd, yr amgylchedd

Diod, bwyd, Bwyd a Diod, Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd, Gwobrau Great Taste

Dilynwch: Pigion

Cymunedau arfordirol Loteri Fawr-ymgynghoriad

 Ar ran Llywodraeth Cymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad i nodi anghenion ac isadeiledd busnesau mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru.

Hoffai’r Gronfa Loteri Fawr glywed gan amrywiaeth o bobl, yn cynnwys entrepreneuriaid, perchnogion busnes, sefydliadau’r trydydd sector, Awdurdodau Lleol, i enwi dim ond rhai.

Felly os oes gennych syniad a allai gynhyrchu incwm cynaliadwy mewn ardaloedd arfordirol neu wella bywydau’r rhai sy’n byw ar hyd yr arfordir, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Byddai’r Gronfa Loteri Fawr yn ddiolchgar iawn pe baech nid yn unig yn llenwi’r arolwg canlynol ond hefyd yn ei ddosbarthu gyda’ch rhwydweithiau.

 http://www.surveygizmo.eu/s3/90013026/Business-Infrastructure-needs-in-Coastal-Settlements

3 rheswm pam mae angen System ‘CRM’ ar eich busnes bach

Mae Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) yn ffordd hawdd i fusnes reoli ei holl ryngweithio â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid. Bydd diffinio strategaeth CRM yn sicrhau bod prosesau eich busnes yn hwylus ac effeithlon, tra gall mwy o ymwybyddiaeth helpu’ch busnes i wella cysylltiadau, cadw cwsmeriaid a hybu elw hirdymor.

Yn benodol, mae system CRM yn galluogi busnesau i reoli proses y cwsmer trwy lunio gwybodaeth o sawl sianel wahanol, gan gynnwys y wefan, y ffôn, yr e-bost, sgwrsio byw, deunyddiau marchnata a chyfryngau cymdeithasol. O gael trosolwg clir, gall y busnes a thimau penodol (fel gwerthu a marchnata) ymwneud â chwsmeriaid yn well, gweld cyfraddau trosi gwell a chynyddu elw.

Dyma 3 rheswm allweddol pam mae system CRM yn bwysig i fusnesau o bob maint (nid dim ond cwmnïau mawr!)

  1. Trefnu Heb lwyfan pwrpasol ar gyfer cadw a mynd at ddata cwsmeriaid, mae’n hawddd colli neu anwybyddu gwybodaeth bwysig. Gyda phopeth wedi’i storio’n ddibynadwy yn yr un lle, bydd hi’n haws gwneud synnwyr o ddata cwsmeriaid a dilyn sgyrsiau i fyny yn effeithiol. O gael trosolwg trefnus o’r ffordd y bu cwsmer yn rhyngweithio â’ch busnes yn flaenorol, byddwch yn arbed amser ac ymdrech a fyddai, fel arall, wedi’i dreulio’n mynd dros hen dir gyda chwsmeriaid a allai eisoes fod wedi ymwneud â chi.
  2. Gwella gwasanaeth i gwsmeriaid Os nad ydych chi’n rheoli eich perthynas â chwsmeriaid yn effeithiol, yna gallai eich busnes fod yn colli allan ar sgyrsiau pwysig a chyfleoedd trosi. Nid yn unig y mae hyn yn golygu’r posibilrwydd o golli gwerthiannau, ond gallech fod yn anwybyddu cwsmeriaid ac, o ganlyniad, yn eu troi rhag eich busnes. Bydd system CRM yn eich galluogi chi i sicrhau eich bod yn dilyn pob cwsmer i fyny ac yn eu trin fel unigolion pwysig.
  3. Amlygu posibiliadau a’u dilyn i fyny Gall system CRM helpu’ch tîm gwerthu i amlygu posibiliadau yn gyflym a’u categoreiddio. Trwy gael y wybodaeth fwyaf cywir a chynhwysfawr sydd ar gael, gall eich tîm adolygu ymhle y mae cleientiaid a chwsmeriaid yn y daith werthu, a sut a phryd y cysylltwyd â nhw. Gall hyn ganiatáu i’r tîm ddilyn posibiliadau i fyny yn y modd mwyaf effeithiol a gostwng amseroedd ymateb. O ganlyniad, gall staff gwerthu ganolbwyntio’u sylw a’u hamser ar y cyfleoedd gorau, ochr yn ochr â gallu adolygu’r sianeli mwyaf effeithiol ar gyfer dod o hyd i bosibiliadau.

Mae defnyddwyr bellach yn defnyddio amryw sianeli i gyfathrebu â busnesau, felly gall fod yn hawdd iawn colli trywydd ar gyfleoedd pwysig i ymgysylltu â nhw a’u troi’n gwsmeriaid. Gall llwyfan CRM helpu i chi gael golwg glir ar eich holl gysylltiadau â chwsmeriaid, caniatáu i dimau gwerthu gysylltu ar yr adegau gorau a sicrhau eich bod chi’n cynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

cysylltiadau perthnasol eraill:

Gwella’ch Gwasanaeth Cwsmeriaid gyda Thechnoleg Ddigidol

Hyrwyddo busnesau Sir Ddinbych drwy ymgyrch #carubusnesaulleol

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog trigolion i gefnogi ymgyrch i hyrwyddo busnesau lleol yn y sir.

Bwriad ymgyrch #carubusnesaulleol  yw annog pobl leol i gefnogi busnesau lleol drwy ddefnyddio’r hashnod ar Twitter a’r Weplyfr, er mwyn hyrwyddo profiadau da o siopa a hyrwyddo eitemau a gwasanaethau lleol y maent wedi’i ‘garu’.

Mae’r Cyngor am i fusnesau Sir Ddinbych fod yn rhan o’r ymgyrch drwy ddefnyddio’r hashnod i hysbysebu eu busnes ac i ledaenu’r gair am yr ystod eang o eitemau a gwasanaethau sydd ar gael mewn trefi a phentrefi’n lleol. 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn galw ar drigolion Sir Ddinbych i ddangos eu cefnogaeth i fusnesau lleol, er mwyn hybu’r hyn sydd ar gael ar y stryd fawr.  

“Mae cymaint o fusnesau ffantastig yma yn Sir Ddinbych mewn amrywiaeth o feysydd, o fwyd a gwestai i siopau sy’n gwerthu nwyddau crefft unigryw a darparwyr gwasanaethau a phrofiadau hollol unigryw. Mae angen i ni ledaenu’r gair a sicrhau bod pobl yn defnyddio’r busnesau hyn.  

“Mae’r busnesau hefyd yn rhoi cymorth i gefnogi economi ffyniannus ac yn cefnogi cymunedau drwy gynnig swyddi ar gyfer pobl leol. Rydym am i bobl Sir Ddinbych rannu eu profiadau o ymgysylltu â busnesau lleol drwy siopa ynddynt ac ymrwymo i siopa’n lleol.” 

Dywedodd David Jones,  Cadeirydd Llwybr Fwyd Bryniau Clwyd ac un o lysgenhadon twristiaeth Sir Ddinbych : “Rwy’n meddwl fod hwn yn ymgyrch bositif iawn gan y Cyngor. Mae angen i fusnesau lleol gefnogi ei gilydd a chreu rhwydweithiau. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn fodd gwych o wneud hyn.  

“Mae hi hefyd yn hynod bwysig fod cymunedau’n cefnogi’i busnesau lleol. Mae gennym ystod eang o fusnesau arbennig yn ein sir ac mae’n rhaid i ni ledaenu’r neges fod prynu’n lleol yn dda i bawb mewn nifer o elfennau. 

Mae’r ymgyrch hefyd yn rhan o fwriad y Cyngor i hyrwyddo siopa’n lleol ac annog busnesau yn y sir i weld y budd o siarad gyda phobl ar y cyfryngau cymdeithasol”

Cwrs Cyfryngau Cymdeithasol AM DDIM ar gyfer Busnesau #CaruBusnesauLleol

28 Mehefin, Neuadd y Sir, Rhuthun 16.30 – 19.30

Eisiau gwella eich llinell olaf? Hoffech chi ddefnyddio Twitter, Facebook ac ati ar gyfer busnes, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Bydd y gweithdy bach a chyfeillgar hwn ar gyfer dechreuwyr yn eich helpu i wneud hynny.

Dan arweiniad Helen Hodgkinson o Grŵp Retail Skills Academy, bydd y cwrs yn mynd â chi drwy sut i sefydlu cyfrif, yn ogystal â rhoi cyngor ymarferol ar beth i’w wneud a beth i beidio o ran defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Mae’n ‘ymarferol’, felly dewch â gliniadur os oes gennych un.

Os yw at eich dant ai peidio, mae’r cyfryngau cymdeithasol yma i aros, felly beth am wneud defnydd ohono i dyfu eich busnes?

Mae archebu lle yn hanfodol gan fod nifer y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig.

E-bostiwch ni: datblygiad.economaidd@sirddinbych.gov.uk

 

 

 

 

 

 

 

Datblygiad Sector Twf

Mae ‘Datblygiad Sector Twf’ yn un o nifer o flaenoriaethau sy’n cael eu harwain gan Fwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Cyngor, gyda’r Tîm Datblygu Economaidd a Busnes yn arwain ar gyflawni.  Mae’n rhan o strategaeth tymor hir y Cyngor i ddatblygu economi gwerth uwch, cyflog uwch sy’n helpu i gynyddu incymau cartrefi.

Felly beth yw ystyr ‘Sectorau Twf’? Yn yr achos hwn, mae’r Cyngor yn cyfeirio at y sectorau hynny sy’n tyfu’n gynt a chynt o fewn y DU ond hefyd y rhai sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel.  Mae’r rhain yn cynnwys gweithgynhyrchu uwch, biotechnoleg/gwyddorau bywyd, ynni gwyrdd, amaeth-dechnoleg, technoleg bwyd a diwydiannau creadigol i restru dim ond rhai.  Gan gymryd gwyddorau bywyd, er enghraifft, fel sector sy’n dod i’r amlwg, ar hyn o bryd mae’n werth tua £60bn y flwyddyn i economi’r DU ac yn cefnogi dros 220,000 o swyddi.

Yn seiliedig ar ymchwil lleol ac ehangach mae’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymdeithasol wedi blaenoriaethu sectorau gweithgynhyrchu uwch a biodechnoleg/gwyddorau bywyd (er yn dal i ymgysylltu â sectorau twf eraill) gan eu bod yn fwyaf tebygol o fodloni nodau o ran darparu busnesau a swyddi o werth uchel.  Mae’r ffaith bod nifer fach o’r mathau hyn o gwmnïau yn bodoli eisoes yn Sir Ddinbych yn helpu i ffurfio sbringfwrdd credadwy ar gyfer datblygiad pellach.

Mae themâu allweddol o fewn rhaglen waith sector twf y cyngor yn cynnwys:

  1. Gweithio gyda chwmnïau cynhenid Gweithgynhyrchu Uwch a Biotechnoleg
  2. Adolygu darpariaeth unedau masnachol ar y cyd ar gyfer sectorau Gweithgynhyrchu Uwch a Biotechnoleg a Gwyddorau Bywyd
  3. Ymgymryd ag ymarferion marchnata ac ymgysylltu wedi’u targedu
  4. Cael gwared ar rwystrau ar gyfer twf
  5. Tynnu sylw at yr angen i ddatblygu sgiliau’r gweithlu lleol/rhanbarthol yn unol ag anghenion y sector Gweithgynhyrchu Uwch
  6. Creu amgylchedd busnes mwy deniadol

Y cam cyntaf oedd i ddeall anghenion seilwaith ar gyfer y sectorau hyn yn well, gwaith y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn canol mis Awst 2016. Bydd hyn yn egluro beth y gall y Cyngor ei wneud i wella tir ac eiddo yn arbennig, ond hefyd yn amlygu’r potensial ar gyfer twf o fewn busnesau lleol a ffyrdd y gellir cefnogi hyn.

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith i ddatblygu Sectorau Twf cysylltwch â James Evans, Swyddog Arweiniol ar gyfer Mewnfuddsoddi a Thwf Uchel.

Prentisiaethau Uwch

Mewn marchnad gystadleuol, mae cael gweithwyr medrus sy’n cwrdd ag anghenion eich busnes a’ch cwsmeriaid yn allweddol i lwyddiant.

  1. Hyfforddiant heb gost. Mae Llywodraeth Cymru yn talu cost lawn yr hyfforddiant
  2. Yn agored i unrhyw grŵp oedran. Gall unrhyw weithiwr gymryd rhan yn yr hyfforddiant.
  3. Uwchsgilio gweithwyr presennol. Rhowch fantais gystadleuol i’ch sefydliad

Bydd Prentisiaethau Uwch yn eich helpu i ddatblygu’r gweithwyr talentog hynny o fewn eich sefydliad sy’n dyheu i fod y genhedlaeth nesaf o reolwyr. Mae’r cyrsiau cost-effeithiol a blaengar hyn yn darparu hyfforddiant bywyd go iawn, wedi’u cynllunio i fod o fudd uniongyrchol i’ch busnes yn y tymor byr a’r tymor hir.

Mae prentisiaeth uwch yn cyfuno hyfforddiant yn y gwaith gydag astudio tuag at gymhwyster lefel uchel sy’n cael ei gydnabod yn y diwydiant. Mae’n darparu dewis arall i astudio academaidd addysg uwch traddodiadol ar gyfer gweithwyr sy’n awyddus i ddatblygu eu datblygiad proffesiynol.

Rydym yn cynnal cyfres o ddiwrnodau ymwybyddiaeth ar gyfer rhai o’ch diwrnodau ymwybyddiaeth yn ystod y misoedd sydd i ddod.  Edrychwch ar ein taflen diwrnodau ymwybyddiaeth –Diwrnodau Ymwybyddiaeth.

Os hoffech chi gael gwybod mwy a chadw lle yn y Diwrnod Ymwybyddiaeth, yna anfonwch e-bost ataf, Sian Crickett ar s.crickett@gllm.ac.uk

 

 

Ysgol Busnes Bangor – Rhaglen Arweinyddiaeth ION Newydd

Arweinyddiaeth ION yw’r rhaglen arweinyddiaeth newydd ar gyfer busnesau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, a gyflwynir gan Brifysgolion Bangor ac Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgolion Abertawe a Bangor.

Mae nifer fach o lefydd ar ein rhaglen Arweinyddiaeth Uwch yr haf ar gyfer arweinwyr profiadol.  Cysylltwch â ni i drawsnewid eich busnes – 01248 382497 neu ionleadership@bangor.ac.uk www.ionleadership.co.uk.

Er bod tâl yn cael ei godi, gall busnesau Sir Ddinbych gael cymorth gan y Tîm Economaidd a Datblygu Busnes, a Chyngor Sir Ddinbych.

Mae Cymru, fwy nag unrhyw ranbarth arall yn y DU efallai, yn dibynnu ar fentrau bach a chanolig eu maint ar gyfer twf a lles economaidd.  Mae’r busnesau hyn yn hynod ddibynnol ar yr uchelgais, y penderfyniad a sgiliau eu harweinwyr a’u perchnogion.

Felly mae buddsoddi yn yr unigolion allweddol hyn yn gwneud synnwyr.  Gallant wneud y gwahaniaeth rhwng busnes sefydlog, ac un sy’n arloesi, yn tyfu ac yn creu swyddi a chyfoeth newydd i gymunedau Cymru.

Rhwng 2010 a 2015, fe wnaeth rhaglen LEAD Cymru ddarparu buddsoddiad yn yr arweinwyr busnes hyn, ar draws Gogledd a De Orllewin Cymru.  Yn Sir Ddinbych roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o arweinwyr mewn busnesau mor amrywiol â Jones Bros, Systemau Gwybodaeth Boyns, One Planet a Manorhaus.  Yn dilyn LEAD, mae’r rhaglen arweinyddiaeth ION newydd ar fin dechrau rŵan.

Felly, pa wersi sydd wedi’u dysgu o redeg LEAD Cymru a chynllunio arweinyddiaeth ION?

  • Mae buddsoddi yn eich sgiliau arwain yn talu ar ei ganfed yn y tymor hir.
  • Mae cwblhau cymhwyster yn helpu arweinwyr i strwythuro eu meddyliau a myfyrio, gan wella eu gallu i newid. Roedd ysgrifennu eu myfyrdodau ar brofiad dysgu a sut y gellid defnyddio hyn yn eu busnes, yn golygu bod arweinwyr yn fwy tebygol o roi newid ar waith.
  • Mae dysgu o fod mewn rhwydwaith o ddysgu arweinwyr eraill yn wirioneddol ddefnyddiol – mae pobl yn cefnogi ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Grwpiau cyfoedion amrywiol sydd orau – ond nid yw hynny’n golygu na ddylai arweinwyr ddod at ei gilydd mewn grwpiau diwydiant. Gall cysgodi, hyfforddi a dysgu gweithredol weithio’n dda iawn o fewn rhwydwaith y gellir ymddiried ynddo.
  • Mae canolbwyntio ar ‘feddylfryd arweinyddiaeth’ yn fwy beirniadol na menter benodol a hyfforddiant twf.
  • Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â gweledigaeth, diwylliant a gwerthoedd sefydliad, wedi’i yrru gan hunanymwybyddiaeth, empathi a hyder i newid.
  • Ymarferol sydd orau – rhaid i ddatblygiad arweinyddiaeth allu cael ei ddefnyddio yn y busnes ar unwaith. Mae profiadau go iawn, ymarferol yn creu cyfranogiad emosiynol, yn annog arweinwyr i fyfyrio ar eu profiadau ac yn creu arferion cadarnhaol newydd.
  • Un o’r prif effeithiau ar y cynrychiolwyr oedd gwella eu hyder, eu hunangred yn yr hyn maent yn ei wneud fel arweinwyr, a sut mae eu cyfoedion a’u staff yn eu hystyried. Mae’r rhaglenni yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae cynrychiolwyr yn teimlo am y penderfyniadau a wnânt yn eu bywydau personol a busnes. Mae’r rhaglen hefyd yn lleihau hunan-amheuaeth a’u hangen i gwestiynu eu penderfyniadau, sydd yn ei dro yn eu gwneud yn well arweinwyr mewn amgylcheddau sy’n newid.
  • 5 o fanteision uchaf hyfforddiant arweinyddiaeth yw:
    • Meithrin perthnasau effeithiol
    • Creu a chyfathrebu gweledigaeth ar gyfer y busnes
    • Gwelliant Parhaus
    • Dirprwyo i weithwyr
    • Rheoli staff
  • Mae’r rhaglen LEAD wedi bod yn gwrs amhrisiadwy.

“Er bod gennym sylfaen a gwybodaeth wych mewn adeiladu, ychydig iawn a wyddom am fusnes neu redeg cwmni. Fe wnaeth y cwrs fy ngalluogi i gymryd cam yn ôl, a gweld fy musnes o’r tu allan.   Roedd y Dosbarthiadau Meistr yn ffordd wych o ddysgu oddi wrth brofiadau pobl eraill a dod â’u syniadau / camgymeriadau a’u llwyddiannau i fy nghwmni. Roedd llawer o adegau “Eureka” drwy gydol y cwrs.” Arweinydd a chyfranogwr busnes

Cysylltwch i drawsnewid eich busnes – 01248 382497  neu ionleadership@bangor.ac.uk www.ionleadership.co.uk