Cynllun Gweithredu Economaidd

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi wedi cyhoeddi cam nesaf y Cynllun Gweithredu Economaidd, a fydd yn cyflwyno’r Contract Economaidd, Galwad i Weithredu a’r Gronfa Dyfodol Economaidd. Bwriad y cynllun fydd ceisio tyfu ein heconomi ac y mae wedi cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion heddiw a pharatoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn y dyfodol.

Y Contract Economaidd

Y Contract Economaidd yw’r fframwaith ar gyfer creu perthynas newydd â busnesau sy’n gobeithio cael mynediad at gyllid, gan ei gwneud yn ofynnol ar fusnesau i ddangos eu bod wedi ymrwymo i dyfu, darparu gwaith teg, sicrhau iechyd a sgiliau gweithwyr a lleihau eu hôl troed carbon, gan adlewyrchu’r math o ymddygiad busnes y mae llawer o fusnesau llwyddiannus a chyfrifol yn eu harddel.

Galw i Weithredu

Bwriad hyn yw helpu busnesau i baratoi ar gyfer y dyfodol ac addasu i’r heriau y gallant eu hwynebu. Ar gyfer Gymru, mae’r Galwadau i Weithredu hyn wedi’u dylunio i alluogi twf economaidd mwy cynhwysol drwy hyrwyddo cryfderau rhanbarthol a mynd i’r afael â heriau strwythurol.

  • datgarboneiddio
  • arloesi, entrepreneuriaeth a phencadlysoedd
  • allforio a masnach
  • cyflogaeth o ansawdd uchel, datblygu sgiliau a gwaith teg
  • Ymchwil a Datblygu, awtomatiaeth a digidoleiddio

Y Gronfa Dyfodol Economaidd

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pecyn cyllid wedi’i fireinio sy’n dod â chynlluniau cyllid presennol at ei gilydd mewn dull cyson, gan symleiddio’r broses ar gyfer busnesau a chaniatáu i Lywodraeth Cymru fod yn hyblyg o ran sut mae’n defnyddio’r adnoddau sydd ganddi i ddiwallu anghenion busnes, a chyflawni mewn perthynas â’r pwyntiau a amlygwyd yn y Contract Economaidd a’r Galwadau i Weithredu.

I gael rhagor o wybodaeth am Cynllun Gweithredu Economaidd, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Gallwch weld y strategaeth ar wefan Llywodraeth Cymru 

 

Busnes y Dref. Rhwydweithio a brandio yn nhrefi Sir Ddinbych

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o gyfweliadau sy’n rhoi enghreifftiau o’r amrywiaeth o fusnesau mawr sydd yng nghanol ein trefi.

Siop ddillad Trefor Jones

Tudor Jones yw perchennog siop ddillad Trefor Jones yn Rhuthun,

busnes teuluol sydd wedi ei hen sefydlu ac wedi bod ar agor ers 40

mlynedd.

Mae’r cwmni’n cynnig ystod o ddillad dynion o’r safon uchaf gan

gynnwys dillad hamdden, dillad ffurfiol, esgidiau, llogi ar gyfer

priodasau ac ategolion.

Dywedodd Mr Jones, mab i sylfaenydd y busnes: “Rydym yn frand lleol

sefydledig. Rydym yn gweithio’n galed ac mae gennym gwsmeriaid

amrywiol. Rydym yn ceisio cael ystod amrywiol yn y siop, rhaid symud

ymlaen a bod yn hyblyg.

Tudor Jones owener of trefor Jones

“Mae’n bwysig symud ymlaen ac aros yn berthnasol, mae gennym

adran logi brysur iawn ac rydym wedi symud ymlaen i esgidiau. Mae’n

rhaid bod gwahanol bethau’n mynd ymlaen, dydyn ni ddim yn gwerthu

cymaint o siwtiau ag oeddem ni 20 mlynedd yn ôl. Mae’n ymwneud ag

arallgyfeirio a pharhau i gadw cynhyrchion o ansawdd, bod yn wahanol

i gwmnïau amlwladol. Mae cael gwybodaeth a phrofiad a medru helpu

ein cwsmeriaid yn helpu denu pobl yn ôl. Mae gennym enw da ac

rydym yn cael cwsmeriaid o’r Wirral, Sir Gaer a’r arfordir.

“Mae cymuned fusnes wych yn Rhuthun. Dydi siopa ar-lein ddim i

bawb. Mae pobl yn dal i fod eisiau trio’r dillad ymlaen, maen nhw

eisiau cyffwrdd a theimlo’r cynnyrch.

908

“Mewn trefi fel Rhuthun, mae lleoedd neis i fwyta, mae yna hanes i’r dref.

Mae’n gyrchfan hefyd, gall siopwyr ddod i dreulio pnawn yn y dref.”