Ni yw’r Tîm Datblygu Economaidd a Busnes sy’n adran fach o fewn Cyngor Sir Ddinbych yng Ngogledd Cymru. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu’r economi leol trwy gefnogi cyfleoedd i fusnesau i ddechrau a thyfu. Rydym yn gweithio gyda busnesau preifat ac ystod eang o sefydliadau partner i sicrhau buddsoddiad yn ein heconomi leol.
Ein nod yw creu amgylchedd lle mae busnesau lleol yn teimlo cysylltiad â’i gilydd â’u cyngor. Rydym am i fusnesau i gael llais sy’n cael ei glywed, ei ddeall ac y gweithredir arno er mwyn cynorthwyo eu twf a thrwy wneud hynny yn creu swyddi o ansawdd da ar gyfer ein trigolion.
Rydym yn helpu busnesau sydd eisiau:
- Dod o hyd i’r cyngor cywir
- Dechrau busnes
- Twf
- Symud i’r ardal
- Cysylltu ag eraill