Gêm Drosodd

Nid oes unrhyw deimlad yn debyg i’r panig sy’n corddi’r stumog ac yn gwneud i chi chwysu pan fyddwch yn gwybod eich bod wedi colli eich holl ddata.  Meddyliwch am yr holl oriau a dreuliwyd, yr arian a gollwyd a’r wybodaeth goll, a beth y gallai hyn ei olygu ar gyfer eich busnes.

Os nad yw hynny wedi gwneud i chi wingo, gadewch i mi adrodd yr hanes sut y bu i’r cwmni animeiddio digidol Pixar bron â diflannu.   Nid gyda hud a lledrith ond gydag un darn bach o gôd.

/bin/rm -r -f *

toystory2bd-01

 Ym 1998 roedd criw bychan o animeiddwyr Pixar yn gweithio’n galed i ddiwallu terfyn amser i gynhyrchu Toy Story 2 yn barod ar gyfer y lansiad.  Mewn prosiect fel hyn, mae pob animeiddiwr yn gweithio ar yr un rhwydwaith cyfrifiadurol.  Efallai y bydd un person yn addasu’r golau, tra bo un arall yn addasu symudiad het Woodie yn yr un olygfa.   Wrth i’r animeiddwyr weithio, roedd elfennau’r olygfa yn dechrau diflannu.  I ddechrau roedd y gwead yn edrych yn rhyfedd, yna diflannodd wyneb un o’r cymeriadau ac yna roedd cyrff, ategolion a golygfeydd yn diflannu.   Erbyn iddynt dynnu plygiau’r gweinydd dim ond 10% o’r ffilm wreiddiol oedd wedi goroesi.  Roedd rhywun, drwy gamgymeriad, wedi mewnbynnu’r prif gôd dileu.  Wrth i sgriniau’r animeiddwyr rewi ac wrth iddynt fynd i gael ychydig o ginio, nid oeddent wedi llwyr sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa.  

Dylai pob cwmni sy’n cadw data ddefnyddio system sy’n creu copïau wrth gefn.  Fodd bynnag, yn ôl y Guardian, nododd 48% o fusnesau bach y DU nad oes ganddynt gynlluniau rheoledig ar waith a nododd 78% nad oedd ganddynt gynllun adfer data symudol.  Yn ôl Siambrau Masnach Prydain mae 93% o fusnesau sy’n colli data am fwy na 10 diwrnod yn fethdalwyr o fewn blwyddyn.

Yn ffodus, roedd gan Pixar system wrth gefn.   Yn ôl ym 1998 roedd copïau wrth gefn yn cael eu cadw ar dapiau- pan fo un tâp yn llawn byddai rhybudd yn nodi bod angen un newydd.  Fodd bynnag, ar yr achlysur hwn, ni chafwyd y rhybudd.  Roedd hyn yn golygu wrth i’r gwaith newydd gael ei ysgrifennu, roedd yn dechrau tynnu’r hen waith oddi ar y tâp, gan ddileu’r strwythurau allweddol yr oedd yr animeiddiad newydd yn seiliedig arnynt.  Pan sylweddolwyd hyn, bu’n rhaid galw cyfarfod brys.

Heddiw, mae creu copi wrth gefn o’ch ffeiliau yn hawdd.  Gall nifer o wasanaethau ar-lein greu copi wrth gefn o’ch data ar eu gweinyddwyr eu hunain a gwarantu diogelwch data ac ansawdd gwasanaeth.  Os na allwch fforddio talu am wasanaeth neu eich bod eisiau trefnu eich data eich hunan gall Gwasanaeth Data y DU a ready.gov ddarparu canllawiau ynglŷn â sut i greu copïau wrth gefn o ddata a beth i’w wneud os ydych yn ei golli.

Yn ôl at stori Pixar, gyda phrosiect Toy Story 2 a thynged y cwmni cyfan yn y fantol, gwaeddodd un gweithiwr “Mae gennyf beiriant gartref”.  Fel y digwydd, roedd Cyfarwyddwr Technegol Goruchwyliol Toy Story 2 yn dychwelyd o gyfnod mamolaeth, ac wedi bod yn gweithio ar y ffilm o gartref, lle’r oedd ganddi gopi bron â bod yn gyflawn o’r ffilm ar ei gyriant caled.  Anfonwyd tîm i gasglu’r peiriant a oedd yn dal tynged y cwmni cyfan ar ei fanciau cof.  Ni fu’n rhaid i Pixar ddod yn fethdalwyr ar y diwrnod hwnnw, ond aethant yn eu blaenau i gynhyrchu rhai o ffilmiau mwyaf hudolus y ddegawd ddiwethaf.  Gallai’r stori fod yn wahanol iawn.  

Fyddwch chi’r un mor lwcus?

 

Pa mor Barod yw eich Busnes?

Gall unrhyw fusnes ddioddef digwyddiad difrifol sy’n eu hatal rhag ymgymryd â’i fusnes fel arfer. Er enghraifft seibr-drosedd, tor-pŵer, llifogydd, tân, aflonyddwch cludiant mawr neu hyd yn oed terfysgaeth. Efallai na fydd yn digwydd i chi yn uniongyrchol ond gallai fod yn rhywbeth daw eich busnes yn gysylltiedig ag o ac y caiff ei effeithio ganddo.

‘Canfu’r Ffederasiwn Busnesau Bach a Climate Ready yn Asiantaeth yr Amgylchedd nad oedd gan draean o fusnesau yn y DU yswiriant parhad busnes ac nad oedd gan 60% unrhyw gynlluniau i ddelio â thywydd eithafol – er i ddwy ran o dair fod wedi eu heffeithio gan eira, sychder neu lifogydd yn y tair blynedd diwethaf.’ Ffynhonnell: BITC.

Ar gyfer busnesau bach, gall effaith digwyddiad difrifol fod yn ddinistriol. Er mwyn helpu busnes i ymdopi mewn argyfwng, y cyngor yw paratoi cynllun parhad. Mae cynllun parhad busnes yn disgrifio’r camau ymarferol mae angen i’ch busnes eu cymryd os yw problem benodol yn codi.

Fel y dywed FedEx, ‘Gwnewch fwy na chroesi’ch bysedd’!

Mae seibr-drosedd wedi ei nodi fel problem gynyddol, ond mae help a chyngor ar gael ar gyfer busnesau. Porwch drwy’r rhaglen ddigwyddiadau ar wefan Sir Ddinbych YMA. Neu cysylltwch â’r tîm Band Eang Cyflym Iawn yn Busnes Cymru. Gallwch weld eu post BLOG diweddar ar gamau i’ch helpu i warchod eich asedau.

Fodd bynnag, dim ond un enghraifft yw seibr-drosedd a dylai busnesau baratoi trwy sefydlu cynllun parhad busnes cyffredinol. Mae hyn yn gwneud busnesau’n fwy parod i ymdopi mewn argyfwng, a dylai helpu gyda chyflymu’r broses adfer gan wneud busnesau yn fwy gwydn.

 Mae gan y wefan Busnes yn y Gymuned gyngor ymarferol a chyfres o awgrymiadau a ‘thempledi deg munud’ sydd wedi eu hanelu at fentrau bach a chanolig eu maint. Mae pethau fel cadw rhestr o gysylltiadau mewn argyfwng a chopïau wrth gefn o wybodaeth allweddol yn lle da i ddechrau. Mae mwy o help a gwybodaeth YMA.

Gall Busnes Cymru hefyd ddarparu cyngor ar Gynllunio Parhad Busnes a gellir cysylltu â nhw ar 03000 6 03000 neu ewch i’w gwefan www.Businesswales.gov.uk.

 

free-business-resources pic

 

Blog Cymraeg mewn Busnes

Mae prosiect peilot Cymraeg mewn Busnes wedi gwneud gwahaniaeth mawr i nifer o fusnesau bach yn Sir Ddinbych. Drwy godi ymwybyddiaeth o sut gall dwyieithrwydd elwa incwm busnesau mae’r prosiect Cymraeg mewn Busnes wedi creu newid parhaol, gobeithio. Dyma ychydig o’r adborth cadarnhaol a dderbyniom:

quotes wel

Ym mis Medi 2016 comisiynodd y Tîm Datblygu Economaidd a Busnes IAITH: y ganolfan cynllunio iaith Gymraeg er mwyn darparu prosiect peilot ‘Cymraeg mewn Busnes’ gyda’r bwriad o brofi buddion busnes dwyieithrwydd drwy hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel arf busnes er mwyn gwella perfformiad economaidd. Bu’r prosiect peilot yn gweithio gyda busnesau ym Mhrestatyn, Llangollen a Llanelwy am gyfnod penodol o amser er mwyn deall yr angen a’r awch am gymorth iaith Gymraeg o fewn busnesau. Yn nes ymlaen yn 2017 byddant yn ail gysylltu gyda’r busnesau hynny er mwyn profi pa wahaniaeth mae’r camau gweithredu a gymerwyd wedi ei wneud i’w hincwm.

Mae canfyddiadau cynnar o’r prosiect peilot yn awgrymu fod yr iaith Gymraeg yn rhoi mantais gystadleuol gyffredinol i fusnesau drwy allu cyfathrebu’n ddwyieithog gyda chwsmeriaid. Mae buddiannau mwy penodol a ddatgelwyd gan y peilot yn cynnwys:

  • Mae’r defnydd o’r Gymraeg yn rhoi safon dilysrwydd unigryw i fusnes. Os ydych yn gweld cynnyrch neu wasanaeth sy’n dibynnu ar leoliad ar gyfer ei werth, bydd defnyddio’r Gymraeg yn atgyfnerthu’r teimlad o ddilysrwydd.
  • Mae’n gwrtais ac yn aml yn hanfodol darparu cyfieithiad Cymraeg mewn busnes, ar gyfer y cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
  • Gall siarad Cymraeg ac arddangos arwyddion Cymraeg agor marchnadoedd newydd.
  • Mae defnyddio’r iaith Gymraeg yn dangos eiriolaeth dros gynnyrch lleol a gall gysylltu gydag ymdrechion ehangach i farchnata cynnyrch lleol / Cymreig. E.e. CaruBusnesauLleol, Cig Oen Cymru ayb.

Fel rhan o’r prosiect Cymraeg mewn Busnes bu IAITH yn darganfod yn gyntaf faint o Gymraeg sy’n cael ei siarad yn ein trefi ac yna yn recriwtio busnesau oedd yn awyddus i ddysgu sut gall dwyieithrwydd fod o fudd i’w hincwm.

Rhoddodd cyfarfodydd cychwynnol wyneb yn wyneb linell sylfaen i’r prosiect i weithio oddi arni a theimlad o sut mae’r Gymraeg eisoes yn cael ei defnyddio yn ein sir.  Rhoddodd y gwaith hwn gip defnyddiol i ni o’r cychwyn cyntaf, gan nodi fod sawl busnes eisoes yn deall y cysylltiad rhwng yr iaith Gymraeg a gwir brofiad twristaidd, ond nad oedd gan lawer o fusnesau y sgiliau iaith neu’r hyder i’w defnyddio er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w busnes.

Yna, recriwtiodd y prosiect fusnesau o bob tref i gymryd rhan mewn nifer o weithdai busnes Cymraeg yn canolbwyntio ar yr iaith lafar, arwyddion dwyieithog mewn siopau a defnydd o’r Gymraeg ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Daeth y sesiynau hyn â nifer o syniadau newydd i fusnesau a chawsant arfau er mwyn parhau i’w defnyddio yn eu busnesau o ddydd i ddydd.

Ar ddiwedd y gyfres o weithdai cafwyd gweithdy terfynol oedd ar gael i bawb fel rhan o Fis Mawrth Busnes

Ers i’r gweithdai ddod i ben mae nifer o’r gwersi a ddysgwyd gan y busnesau wedi eu rhoi ar waith. Mae un o’r goreuon yn Oriel House, sef gwesty ar Ffordd Dinbych Uchaf ger Llanelwy. Mae staff y gwesty hwn bellach yn gwisgo llinyn gwddw Cymraeg er mwyn dangos i westeion y gallant sgwrsio yn Gymraeg, ac mae Oriel House bellach yn cynnig pecyn priodas fel gwasanaeth newydd.

Ceir bellach ariannodd hyfforddiant hyblyg wedi’i ariannu’n llwyr i gryfhau sgiliau Cymraeg eich gweithlu.

O ddechreuwyr i siaradwyr rhugl, mae Cymraeg Gwaith yn cynnig rhywbeth i bawb.

Mae pedair elfen yn perthyn i’r cynllun:

Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr i Fusnesau Sir Ddinbych

Yn gynharach eleni fe ddywedom wrthych am Gynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun rhyddhad targedig hwn yn newydd ar gyfer 2017/18 a’i nod yw cynorthwyo manwerthwyr ar y stryd fawr, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi gweld cynnydd yn eu bil Ardrethi Busnes o ganlyniad i ailbrisiad 2017 Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Mae Cyngor Sir Ddinbych erbyn hyn wedi sicrhau fod pob eiddo cymwys yn y Sir yn manteisio ar gynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr Llywodraeth Cymru. Mae cyfanswm o 638 o fusnesau cymwys yn Sir Ddinbych wedi arbed £528,812 ar eu biliau. Bydd busnesau unigol wedi cael rhyddhad o hyd at £500 (Haen 1) neu hyd at £1,500 (Haen 2).

Am ragor o fanylion am y cynllun a’r meini prawf cymhwysedd, darllenwch y Canllawiau ar Ryddhad Ardrethi’r Stryd Fawr.

Os yw eich busnes yn gymwys byddwch wedi derbyn bil diwygiedig gyda’r gostyngiad wedi’i roi yn awtomatig ar eich cyfrif.

Os ydych wedi derbyn bil diwygiedig ond ddim yn dymuno derbyn y Rhyddhad Ardrethi ar gyfer eich eiddo chi, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen optio allan a amgaewyd gyda’ch bil.

Fel arall, os ydych yn credu eich bod yn gymwys ond heb dderbyn y rhyddhad ac yn dymuno i ni adolygu eich achos, cysylltwch â’r Adran Ardrethi Busnes ar: businessrates@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 01824 706200.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn llunio’r cynllun rhyddhad ardrethi newydd ar gyfer 2018/19 ac wedi hynny ac rydym yn aros am ragor o arweiniad ac yn disgwyl mwy o fanylion yr hydref hwn.

Arolwg Busnes Sir Ddinbych 2017

Cwblhewch Arolwg Busnes Sir Ddinbych 2017!

Arolwg Busnes Sir Ddinbych yw ein dadansoddiad blynyddol o anghenion busnesau’r sir. Drwy gasglu data gan 496 o fusnesau rydym ni’n gallu mesur tymheredd economi’r sir a defnyddio’r wybodaeth i dargedu ein hymdrechion i helpu busnesau dyfu yn ystod y flwyddyn. Mae’r ymchwil diweddaraf hwn yn dangos bod hyder pobl mewn gwerthiannau wedi cynyddu 7% ers y llynedd, a bod 54% o fusnesau yn edrych ar fuddsoddi yn eu busnesau. Ymhlith pethau eraill rydym ni rŵan yn gallu gweld beth yn ôl busnesau Sir Ddinbych yw’r materion mwyaf sy’n wynebu canol trefi a pha rwystrau a wynebir ganddynt wrth geisio recriwtio’r staff gorau. Mae ciplun o Arolwg Busnes 2016 ar gael yma.

Rydym ni’n cynnal arolygon o’r fath i’n helpu ni ddatblygu’r economi leol ac rydym ni’n defnyddio’r canlyniadau i dargedu’r meysydd nesaf. Heb ymchwil ni fyddem yn gwybod mai Llanelwy yw’r dref sy’n cynhyrchu’r nifer mwyaf o allforion yn y sir a bod ar hanner y busnesau eisiau mwy o hyfforddiant ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Pob blwyddyn rydym ni’n canolbwyntio ar wella’r hyn rydym ni’n ei ddarparu i fusnesau lleol ac efallai eich bod chi wedi gweld llawer o’r ymatebion i’r arolwg yn cael sylw yn ein rhaglen Mis Mawrth Busnes.

Heddiw rydym ni’n lansio Arolwg Busnes 2017 ac mae arnom ni angen eich cymorth chi i ledaenu’r gair. Os ydych chi’n berchen ar fusnes cofiwch gwblhau’r arolwg hwn er mwyn dweud eich dweud a rhoi cynnig ar ennill iPad newydd sbon.

Cwblhewch Arolwg Busnes Sir Ddinbych 2017!

 

Dosbarth Meistr LinkedIn, Dinbych 26 Mehefin 2017, 2.00- 5.00

Dosbarth Meistr LinkedIn, Hwb Dinbych, Ffordd y Ffair LL16 3RJ 26 Mehefin 2017, 2.00-5.00

Archebwch eich lle

Cost £199 a TAW y person


Bydd y cwrs hyfforddiant hanner diwrnod cynhwysfawr hwn yn darparu trosolwg o farchnata effeithiol drwy LinkedIn, yn ogystal â chanllaw ymarferol er mwyn gwneud i LinkedIn weithio i’ch busnes chi. Byddwch yn dysgu sut gellir defnyddio LinkedIn i greu llwybrau cynhyrchu arweiniad cryf ar gyfer eich busnes a sut gallwch ddefnyddio’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol hwn i hyrwyddo’r cyfleodd hyn er mwyn trosi i gwsmeriaid.

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r cwrs Dosbarth Meistr LinkedIn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am wneud y mwyaf o’r cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio LinkedIn fel adnodd cynhyrchu arweiniad allweddol ar gyfer eu busnes.  Mae’n addas i fusnesau o bob maint o bob diwydiant yn ogystal ag asiantaethau.

Yn addas ar gyfer pob gallu.


Bydd y cwrs Dosbarth Meistr LinkedIn yn canolbwyntio ar gyflawni 3 amcan allweddol;

Dysgu am y technegau a’r offer a ddefnyddir ar gyfer marchnata yn effeithiol ar gyfryngau cymdeithasol

Dysgu am strategaethau ymarferol a brofwyd i gynhyrchu cyfleoedd a chynyddu elw busnes

Bod â’r gallu i roi strategaeth cyfryngau cymdeithasol LinkedIn a fframwaith ar waith o fewn eich busnes


Mae’r cwrs LinkedIn hwn wedi ei achredu ar gyfer oriau Datblygiad Proffesiynol Parhaus o fewn Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus Siartredig y Sefydliad Marchnata Siartredig. Byddwch yn derbyn tystysgrif wedi cwblhau’r cwrs, a ellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer eich cerdyn cofnodi Datblygiad Proffesiynol Parhaus. 

Hyfforddwr y Cwrs Dawn McGruer FRSA, Business Consort Ltd

Bydd y cwrs hyfforddi’n cael ei gynnal gan Dawn McGruer FRSA. Mae Dawn yn hyfforddwr marchnata cyfryngau cymdeithasol a digidol, yn ymarferydd, ymgynghorydd, awdur a blogiwr sydd â mwy na 15 mlynedd o brofiad ym maes cyfryngau cymdeithasol.

Hi hefyd yw Cyfarwyddwr ‘Business Consort’ a sefydlwyd yn 2005 ac sydd wedi datblygu yn un o sefydliadau hyfforddiant gorau’r byd ac sy’n achrededig gan y Sefydliad Marchnata Siartredig. Gyda mwy na 2 filiwn o bobl wedi tanysgrifio mae Dawn wedi dod yn ddylanwadwr allweddol yn y maes hwn ac mae’n darparu Cyrsiau Hyfforddi Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol gan gynnwys Diploma CAM mewn Marchnata Digidol.

Beth sy’n cael ei gynnwys?

Defnyddio LinkedIn

Ydych chi’n deall y pethau sylfaenol?

Creu proffil LinkedIn perffaith

Tyfu’ch rhwydwaith, rheoli eich preifatrwydd a chwilio

Amddiffyn eich hunan rhag cystadleuwyr sy’n busnesu  Deall pwy all weld eich ôl troed ar LinekedIn, pam ei bod weithiau yn syniad gwych i bobl eich gweld yn edrych ar eu proffil a dysgu sut i fod yn anhysbys ar LinkedIn.

Cyfathrebu ar LinkedIn: Sut i wneud hynny’n iawn a phryd i’w wneud.

Sefydlu perthynas, cysylltu a datblygu’r cyfleoedd hynny

Grwpiau ar LinkedIn

Dylunio tudalen ag effaith uchel ar gyfer eich cwmni

Gwneud y mwyaf o’ch proffil er mwyn darparu’r gwelededd gorau

Defnyddio geiriau allweddol yn effeithiol ar gyfer eich proffil

Manteision cyfrifon am dâl neu gyfrifon premiwm yn hytrach na rhai am ddim


Archebwch eich lle


Woman to be input to the laptop

Print

Ceir manylion am y rhaglen hon a chynlluniau cymorth amrywiol ar y wefan hon:

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/?skip=1&lang=cy

I’ch helpu i welywio drwy’r cynlluniau mae Cadwyn Clwyd wedi cynhyrchu’r crynodeb defnyddiol hwn. Mae ffenestri ar gyfer ceisiadau am grantiau yn agor a chau yn ystod y flwyddyn.   Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â gwneud cais am gymorth byddai Cadwyn Clwyd yn falch o’ch helpu.  Gellir cysylltu â nhw ar 01490 340500.

Cronfa Datblygu Cymunedol Gwledig

Mae’r Gronfa Datblygu Cymunedol Gwledig (CDCG) yn cynnig grantiau sy’n bennaf ar gyfer prosiectau buddsoddi cyfalaf a arweinir gan sefydliadau cymunedol.  Bydd y grantiau yn darparu buddsoddiad i ystod eang o weithgareddau i helpu i ddiwallu anghenion lleol a chryfhau cymunedau fel y gallant dyfu a ffynnu.  Bydd meysydd allweddol i’w cefnogi yn cynnwys: llunio cynlluniau datblygu cymunedau / pentrefi; buddsoddi mewn seilwaith bach gan gynnwys ynni adnewyddadwy; buddsoddi mewn TGCh gan gynnwys band eang a chynhwysiant digidol; gwella mynediad at wasanaethau megis gofal plant, cludiant gwledig a chyngor ariannol; buddsoddi mewn seilwaith hamdden a thwristiaeth a gweithgareddau i wella iechyd a safon bywyd.  Y grantiau uchaf sy’n bosibl i bob prosiect drwy CDCG yw £128,000 a’r grant lleiaf posibl yw £2,400.  Rhaid i ymgeiswyr sicrhau 50% o gyfanswm costau’r prosiect cymwys (ar gyfer 7.1 ac astudiaethau o dan 7.6) ac 20% o gyfanswm costau prosiectau cymwys (ar gyfer buddsoddiadau dan 7.2 – 7.7).

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/rural-community-development-fund/?lang=en

Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd

Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd wedi’i gynllunio i helpu prif gynhyrchwyr cynhyrchion amaethyddol a busnesau sy’n gwneud gweithgareddau prosesau cam un a/neu gam dau yng Nghymru. Gall y cynllun ddarparu buddsoddiad cyfalaf a chefnogaeth arall i brosiectau os yw o leiaf 90% o’u cynhyrchion amaethyddol cymwys yn cael eu prosesu.  Mae’r cynllun ar agor i geisiadau gan ystod eang o fentrau sy’n gwneud gwaith prosesu cynradd a/neu eilaidd ar gynhyrchion amaethyddol, gan gynnwys:  unig fasnachwyr, sefydliadau’r sector gwirfoddol, cwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus (BBaCh a Mentrau Mawr), busnesau fferm sydd am brosesu eu cynnyrch amaethyddol eu hunain a busnesau newydd, gan gynnwys busnesau sy’n cychwyn o’r newydd. Y trothwy grant uchaf ar gyfer pob menter am unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £5,000,000 a’r trothwy isaf yw £2,400.  Mae cyfraddau grant yn amrywio yn dibynnu ar faint y fenter.

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/food-business-investment-scheme/?skip=1&lang=cy

Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigaeth

Nod y Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigaeth yw cefnogi cynigion sy’n ceisio hwyluso, datblygu neu sefydlu cydweithrediadau a gweithgareddau newydd a chefnogi darpar gydweithrediadau i ddatblygu cynigion prosiect, sy’n gweithio i reoli ein hadnoddau naturiol yn well a chyfrannu at les ein cymunedau gwledig. Mae enghreifftiau o weithgareddau cymwys o dan y cynllun yn cynnwys: datblygu a chydlynu grwpiau cydweithredol; gweithgareddau cyfathrebu a lledaenu gwybodaeth; astudiaethau technegol a dichonoldeb; a monitro a gwerthuso gweithgareddau.  Y trothwy grant uchaf i bob menter ar gyfer unrhyw brosiect unigol yw £180,000 a’r trothwy isaf yw £10,000.  Mae’r gyfradd grant uchaf hyd at 100%.

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/co-operative-forest-planning-scheme/?skip=1&lang=cy

Cynllun Rheoli Cynaliadwy

Bydd y cynllun Rheoli Cynaliadwy yn darparu cymorth ariannol i amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn rheoli ein hadnoddau naturiol yn well a thrwy wneud hynny bydd yn cyfrannu at les ein cymunedau gwledig. Mae’r cynllun yn cynnig grantiau i grwpiau cydweithredol sy’n dymuno: gwella ein hadnoddau naturiol a’r buddion y maent yn eu darparu, cymryd camau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, gwella gwytnwch busnesau a chymunedau yn erbyn effeithiau newid hinsawdd.  Gall y grantiau amrywio o leiafswm o £10,000 i uchafswm o £5,000,000 er mwyn helpu i gychwyn a hwyluso cydweithrediadau newydd ynghyd ag uchelgeisiau ar raddfa tirwedd gan gydlynu camau gweithredu a mewnbwn gan nifer o bartïon i gyflawni buddion parhaol ar draws ein cymunedau.  Y gyfradd grant uchaf i unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw 100% o gyfanswm y gost.

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/sustainable-management-scheme/?skip=1&lang=cy

Cynllun Datblygu Cynlluniau Cyflenwi a Chydweithio

Bwriad y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio yw helpu i wneud i bethau newydd ddigwydd. Bydd yn darparu cymorth ar gyfer ystod eang o faterion a phob agwedd ar brosiect, o’r camau dechreuol trwodd i ddarparu a lledaenu gwybodaeth a gwerthuso.  Ni all y cynllun gefnogi gweithgareddau ar y cyd sydd eisoes ar waith ond gall gefnogi grŵp presennol i ymgymryd â phrosiect newydd ar y cyd.  Nod y cynllun yw cefnogi datblygiad cynnyrch, arferion, prosesau a thechnoleg newydd yn y sectorau amaeth, coedwigaeth a bwyd, gan gynnwys:  busnesau bach sy’n cydweithio i rannu cyfleusterau ac adnoddau cynhyrchu, cadwyni cyflenwi byr a marchnadoedd lleol gan gynnwys gweithgareddau hyrwyddo mewn cyd-destun lleol, a phrosiectau peilot ble mae’r wybodaeth ar gael i’r cyhoedd ac yn cael ei lledaenu’n eang. Y trothwy grant uchaf i bob menter ar gyfer unrhyw brosiect unigol yw £10,000,000 a’r trothwy isaf yw £2,400.  Mae’r gyfradd grant uchaf yn amrywio.

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/co-operation-supply-chain-development-scheme/?skip=1&lang=cy

Cynllun Grant Cynhyrchu Cynaliadwy

Mae’r Cynllun Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yn becyn cymorth grant cyfalaf sydd wedi’i anelu at ffermwyr.  Nod y Cynllun hwn yw darparu buddsoddiad cyfalaf mewn cyfleusterau ac offer sy’n ymwneud ag: iechyd a lles anifeiliaid; storio cnydau; storio a thrin cynhyrchiant; cynhyrchu ynni adnewyddadwy; a rheoli pridd a chnydau.  Y gyfradd grant uchaf ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw 40% o gyfanswm cost y buddsoddiad, beth bynnag fo maint y fenter a ble bynnag y mae.  Y trothwy grant uchaf i fenter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £400,000 a’r trothwy isaf yw £16,000. Y gyfradd grant uchaf ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw 40% o gyfanswm cost y buddsoddiad, beth bynnag fo maint y fenter a ble bynnag y mae.

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/sustainable-management-scheme/?lang=cy

Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren

Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren yn darparu cyllid ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf sy’n ychwanegu gwerth at goedwigoedd drwy weithgareddau rheoli coetiroedd, cynaeafu coed a/neu brosesu coed.  Mae’r cynllun ar agor i berchnogion coedwigoedd preifat, awdurdodau lleol, perchnogion coedwigoedd sector cyhoeddus penodol eraill a mentrau bach/canolig (BBaCh) a sefydliadau cymunedol neu gontractwyr coedwigaeth.  Rhaid i fuddsoddiadau a gefnogir gan y cynllun fod yn gysylltiedig â gwelliannau yng ngwerth coedwigoedd, er enghraifft drwy weithgareddau rheoli coetiroedd, cynaeafu coed a/neu brosesu coed yn y goedwig neu ar raddfa fach. Y trothwy grant uchaf i bob menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £5,000,000 a’r trothwy isaf yw £2,400.

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/timber-business-investment-scheme/?skip=1&lang=cy

 

 

 

 

 

Biliau Ardrethi Busnes ar gyfer 2017/18

Bydd y biliau blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cael eu hanfon yn yr ychydig wythnosau nesaf a bydd rhai newidiadau sylweddol o’r llynedd. Y prif bwyntiau yw:

Gwerth Ardrethol ac Apeliadau

Oherwydd bod 2017 yn flwyddyn ailbrisio efallai y bydd rhai busnesau yn wynebu cynnydd neu ostyngiad mawr yn eu Gwerth Ardrethol o gymharu â’u prisiad presennol. Mewn achosion eraill bydd y gwerthoedd yn eithaf tebyg. Mae’r Gwerthoedd Ardrethol yn cael eu hasesu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, swyddogaeth weithredol o’r HMRC. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd yn rheoli’r holl apeliadau yn erbyn y Gwerthoedd Ardrethol a dylid anfon unrhyw gwestiynau atynt, mae eu manylion cyswllt fel a ganlyn:

Cysylltu â’r Swyddog Prisio. Rhif Ffôn: 03000 505505

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn gosod y Lluosydd Ardrethi Busnes ac yn hysbysu’r Awdurdod Lleol o’u gwerth, mae’n rhaid i unrhyw filiau a gyflwynir, yn ôl cyfraith, nodi’r lluosydd. Mae’r Lluosydd wedi’i osod yn 49.9c ar gyfer 2017/18.

Gostyngiadau Treth i Fusnesau Bychain

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun presennol felly bydd Busnesau gyda Gwerth Ardrethol llai na £6,000 yn derbyn 100% o ostyngiad a bydd busnesau sydd â gwerth ardrethol o £6,000 i £12,000 yn derbyn gostyngiad sy’n lleihau. Ni fydd busnesau â Gwerth Ardrethol sy’n fwy na £12,000 yn derbyn unrhyw ostyngiad. Mae meini prawf cymhwyso, fel y nodwyd gan Gynulliad Cymru. Mae’r rheolau fel a ganlyn:

  • Mae’n rhaid i’r eiddo fod wedi’i feddiannu ar adeg hawlio’r gostyngiad
  • Nid yw Cyrff y Sector Cyhoeddus megis y Cyngor yn gymwys ar gyfer gostyngiad
  • Nid yw trethdalwyr sy’n derbyn Rhyddhad Elusennol Gorfodol yn gymwys ar gyfer gostyngiad
  • Nid yw dosbarthiadau penodol o eiddo megis Meysydd Parcio, Hawliau Hysbysebu a mastiau Cyfathrebu Ffôn yn gymwys ar gyfer gostyngiad.

Ar gyfer busnesau sydd eisoes yn derbyn y gostyngiad hwn nid oes angen ail-ymgeisio gan y bydd y swm newydd yn cael ei gyfrifo’n awtomatig. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai eiddo yn gymwys ar gyfer gostyngiad yn awr ac os ydych chi eisiau i ni adolygu eich achos cysylltwch â ni ar : businessrates@denbighshire.gov.uk / Ffôn 01824 706326

Gostyngiad Trosiannol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun i gynorthwyo i ddiogelu busnesau bach rhag effaith yr ailbrisiad, gan gyfyngu’r cynnydd yn y symiau sy’n daladwy ar gyfer 2017/18 a blynyddoedd y dyfodol. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio fel a ganlyn.

  • Mae’r cyfyngiad ar gynydd yn y bil ardrethi o 2016/17 i 2017/18 wedi’i gapio yn 25% dros £100
  • Ni fydd unrhyw gynnydd mewn ardrethi taladwy hyd at £100 yn derbyn gostyngiad trosiannol.
  • Mae’r gostyngiad trosiannol yn gysylltiedig â’r cyfrif fel y bo ar 1 Ebrill 2017 felly bydd unrhyw newid mewn atebolrwydd e.e. newid mewn meddiannaeth yn terfynu’r gostyngiad o ddyddiad y newid

Mae’r meini prawf cymhwyso fel a ganlyn:

  • Mae’n rhaid i’r Eiddo dderbyn Gostyngiad Ardrethi Busnesau Bach ar 31 Mawrth 2017 (gweler yr adran uchod ar Ostyngiad Ardrethi Busnesau Bach)
  • Mae’n rhaid i’r Trethdalwr fod wedi derbyn cynnydd yn y bil blynyddol o dros £100
  • Mae’n rhaid i’r Eiddo fod wedi’i feddiannu ar 31 Mawrth 2017 a 1 Ebrill 2017
  • Nid yw gostyngiad trosiannol yn daladwy ar eiddo gwag
  • Bydd unrhyw newid mewn atebolrwydd h.y. bod yr eiddo’n mynd yn wag neu newid meddiannydd, yn terfynu’r gostyngiad

Nid oes angen cyflwyno cais ar gyfer y gostyngiad hwn gan y bydd y swm newydd yn cael ei gyfrifo’n awtomatig. Fodd bynnag, os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys ond nad ydych wedi derbyn unrhyw ostyngiad ac eich bod eisiau i ni adolygu eich achos cysylltwch â ni ar: businessrates@denbighshire.gov.uk / Ffôn 01824 706326

Gostyngiad Manwerthu’r Stryd Fawr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gostyngiad newydd, sydd wedi’i ddylunio i gynorthwyo manwerthwyr y stryd fawr lle bo’r busnesau wedi derbyn cynnydd sylweddol yn eu bil. Mae dwy lefel o gefnogaeth, yn seiliedig ar Werth Ardrethol 2017/18 ac mae meini prawf cymhwyso ar gyfer y gostyngiad hwn, nodir manylion pellach isod

  • Cefnogaeth Haen 1 – Uchafswm o £500 neu gyfanswm yr atebolrwydd sy’n weddill (ar ôl cymhwyso Gostyngiad Ardrethi Busnesau Bach ac/neu Ostyngiad Trosiannol) ar gyfer 2017/18 lle bo’r Gwerth Ardrethol ar 1 Ebrill 2017 rhwng £6,001 a £12,000 a bod yr eiddo naill ai’n gymwys ar gyfer Gostyngiad Ardrethi Busnesau Bach ac /neu Ostyngiad Trosiannol yn 2017/18.
  • Cefnogaeth Haen 2 – Uchafswm o £1,500 ar gyfer 2017/18 lle bo’r Gwerth Ardrethol ar 1 Ebrill 2017 rhwng £12,001 a £50,000 ac nad yw’r eiddo’n gymwys ar gyfer naill ai Gostyngiad Ardrethi Busnesau Bach ac /neu Ostyngiad Trosiannol yn 2017/18 ac maent wedi derbyn cynnydd yn eu bil.
  • Ar hyn o bryd nid oes cefnogaeth ychwanegol ar gyfer Busnesau â Gwerth Ardrethol sy’n fwy na £50,000.

Mae’r meini prawf cymhwyso fel a ganlyn:

  • Er mwyn bod yn gymwys mae’n rhaid i Eiddo gael ei feddiannu a’i ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion manwerthu fel y diffinnir gan Lywodraeth Cymru.
  • Ni all y gostyngiad sy’n cael ei ddyrannu, ar ôl ei gyfuno gyda chymorth grantiau eraill, fod yn uwch na therfyn Cymorth Gwladwriaethol yr UE ac mae’n rhaid cwblhau ymwadiad Cymorth Gwladwriaethol ym mhob achos
  • Mae’r gostyngiad yn berthnasol i Fusnesau sy’n meddiannu eiddo ar 1 Ebrill 2017 yn unig, bydd unrhyw newid o ran meddiannydd yn terfynu’r gostyngiad ac ni fydd unrhyw feddiannydd newydd yn gymwys ar gyfer y gostyngiad hwn.
  • Mae rhestr ddiffiniedig o’r mathau o Fusnesau sy’n cael eu heithrio fel y diffinnir gan Lywodraeth Cymru 

Cewch wybod mwy yn y Canllawiau Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr

Opsiynau Talu

Wyddech chi fod y dulliau talu canlynol yn gyflym, dibynadwy ac yn hawdd eu gosod?

  • Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
  • Taliadau ar y we drwy ein gwefan
  • Taliadau Ffôn
  • Mae manylion ar gael ar ein gwefan https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/ardrethi-busnes/ardrethi-busnes.aspx neu cysylltwch â ni ar / Rhif Ffôn 0300 456 2499

Mis Mawrth Menter 2017

Eleni rydym yn fwy ac yn well!

31 Diwrnod      17 Digwyddiad

Dros 90 o arbenigwyr

Lleoliadau ar hyd a lled Sir Ddinbych

Gwrandewch ar y rhai a ddaeth draw y llynedd a’r manteision a gawsant i’w busnesau!

Bydd mis busnes eleni yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, mwy o gyngor arbenigol a mwy o weithdai i elwa’ch busnes gan gynnwys…

Twf Sir Ddinbych, Popeth am Arian, Hyfforddiant Sgiliau Manwerthu, Cymraeg Mewn Busnes, 5 Digwyddiad Gofyn i’r Arbenigwr, Gwersyll Hwb i Fusnes, Dechrau Busnes:   Mynd Amdani a mwy…..

Dewch i ddysgu mwy ac archebu eich lle:

www.sirddinbych.gov.uk/mismawrthmenter

Mynegi Diddordeb

Rydym wedi ymuno ar draws Canolfannau Gwaith Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ddiweddar i baratoi ar gyfer y mewnlifiad o swyddi sy’n dod o’r Diwydiant Adeiladu.

Er mwyn ein helpu i gyfateb ceiswyr swyddi gyda’r swyddi sydd ar gael, mae Canolfannau Gwaith ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru yn bwydo i mewn i Gronfa Ddata Mynegi Diddordeb.  Mae hwn yn cofnodi sgiliau a chrefftau Adeiladu sydd gan geiswyr gwaith. Mae’n gronfa ddata fyw sy’n cael ei diweddaru bob amser wrth i hawlwyr hawlio neu ddod oddi ar fudd-dal.

Mae hefyd yn ein helpu i nodi os oes gennym bobl sydd â’r sgiliau a phrofiad sydd efallai heb y cardiau neu docynnau sydd eu hangen ar gyfer y swyddi sydd ar gael mwyach. Yn yr achosion hynny, byddem yn gweithio’n agos gyda cholegau lleol i roi’r hyfforddiant ar gyfer yr unigolyn cywir, yn gysylltiedig ag anghenion y farchnad lafur leol.

Gall y Ganolfan Waith fod yn arloesol iawn yn eu hagwedd tuag at recriwtio felly os oes gennych swyddi ond â diffyg gweithlu cadarn, cysylltwch â ni i weld sut y gallwn weithio gyda’n gilydd.

Katie Goodwin

Rheolwr Partneriaeth a Chyflogwyr

Canolfan Byd Gwaith Sir Ddinbych

Sir Rheolwr Partneriaeth a Chyflogwyr Manylion cyswllt:
Sir y Fflint Jacqueline Blythe Ffôn: 07759631328

E-bost: JACQUELINE.BLYTHE1@DWP.GSI.GOV.UK

Sir Ddinbych Katie Goodwin Ffôn: 07738535624

E-bost: KATIE.GOODWIN@DWP.GSI.GOV.UK

Conwy: Sharon Williams Ffôn: 07920 450988

e-bost: SHARON.WILLIAMS3@DWP.GSI.GOV.UK

Wrecsam: Dawn Pryce Ffôn: 01686 863153/07900276549

E-bost: DAWN.PRYCE1@DWP.GSI.GOV.UK

Gwynedd: Yvonne Hughes Dolgellau, Machynlleth, Porthmadog

Ffôn: 07776264107

Gwynedd: Eiddwen Borland Bangor, Caernarfon, Pwllheli

Ffôn: 07795308217

E-bost: EIDDWEN.BORLAND@DWP.GSI.GOV.UK

Os yw cyflogwyr yn ystyried recriwtio gweithwyr ar gyfer swyddi Adeiladu, gweler y tabl o gysylltiadau uchod a all eich helpu yn yr ardal yr ydych yn ystyried recriwtio.